Dyddiad: 13-14/04/24
Lleoliad: Neuadd Percival, Prifysgol Caerdydd
Yn y gynhadledd arloesol hon a gynhelir gan Ysgol Hanes, Archaeoleg a Chrefydd ac Ysgol y Gymraeg, gyda nawdd gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, bydd siaradwyr o ystod o ddisgyblaethau (gan gynnwys hanes, archaeoleg a llenyddiaeth) yn cyflwyno papurau ar yr ymchwil ddiweddaraf ar y Gymru ganoloesol.
Cynhadledd ar wahanol agweddau ar hanes Cymru'r Oesoedd Canol gyda siaradwyr o Gymru a thu hwnt. Bydd y gynhadledd yn ddwyieithog gyda chyflwyniadau yn y Gymraeg a'r Saesneg. Dyma'r gynhadledd gyntaf mewn cyfres bydd yn cael eu cynnal bob yn ail flwyddyn gan Brifysgol Caerdydd gyda chefnogaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac eraill. Dyma'r gynhadledd gyntaf fydd yn cael ei chynnal bob yn ail flwyddyn.