Manylion y Gynhadledd
Lleoliad: Coleg Merthyr
Amser: 10am-3:30pm
Cynhadledd ar ddefnyddio technoleg i ddarparu’n ddwyieithog ac yn Gymraeg yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau.
Sesiynau amrywiol am arfer dda a rhwydweithio.
Iaith: Cymraeg gyda cyfieithu ar y pryd
Hoffwn ddiolch i JISC Cymru am eu cefnogaeth wrth drefnu'r gynhadledd hon, ac i Goleg Merthyr am ein caniatau i ddefnyddio'u cyfleusterau.
RHESTR AROS:
Rydym wedi cael ymateb gwych i'r Gynhadledd Technoleg a Dwyieithrwydd eleni, ac o ganlyniad mae'r gynhadledd bellach yn llawn. Mae gennym restr aros felly ydych wedi cofrestru, ond erbyn hyn ddim yn gallu dod, a fyddech cystal ag e-bostio post16@colegcymraeg.ac.uk i roi gwybod i ni.
Rhaglen y Gynhadledd
10:00 |
Cofrestru a phaned |
10:20 |
Gair o groeso Aled Eirug, Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
10:30 |
Prif siaradwr – Indeg Marshall, Llywodraeth Cymru Technoleg a’r Gymraeg – y dyfodol |
11:15 |
Trafodaeth banel 'Y defnydd o dechnoleg ers COVID' |
12:00 |
Darlith - Gruff Prys, Prifysgol Bangor AI i’r Gymru Ddwyieithog |
12:30 |
Cinio a chyfle i ymweld â’r stondinau |
13:15 |
Sesiwn gyntaf y prynhawn (mynychwyr i ddewis un o’r sesiynau canlynol): · Trafodaeth banel - Datblygiadau arloesol mewn technoleg · Cyflwyniad i'r Teclyn Iaith (Mary Richards) · Ymchwil Defnyddiwr – ‘Porth Adnoddau'r Coleg - Datblygiadau i'r dyfodol...?’ (Joanna Evans, Coleg Cymraeg Cenedlaethol) |
13:45 |
Cyfle am sgwrs / ymweld â’r stondinau |
14:00 |
Ail sesiwn y prynhawn (mynychwyr i ddewis un o’r sesiynau canlynol): · Trafodaeth banel - Defnyddio Technoleg i Gymdeithasu'n Gymraeg · Trochi mewn technoleg yn y sector addysg bellach (Marion Evans) · Gweithdy - A.I - lle i ddechrau? (Mary Richards) |
14:40 |
Sesiynau grŵp - adlewyrchu ar y dydd dros baned |
15:10 |
Sylwadau cloi - Meri Huws, Coleg Cymraeg Cenedlaethol |
15:15 |
Diwedd |