Skip to main content Skip to footer
Digidol

Cynhadledd Technoleg a Dwyieithrwydd

Dydd Mercher, 26 Mehefin 2024
Digidol

Manylion y Gynhadledd

Lleoliad: Coleg Merthyr

Amser: 10am-3:30pm

Cynhadledd ar ddefnyddio technoleg i ddarparu’n ddwyieithog ac yn Gymraeg yn y sectorau addysg uwch, addysg bellach a phrentisiaethau.

Sesiynau amrywiol am arfer dda a rhwydweithio.

Iaith: Cymraeg gyda cyfieithu ar y pryd

Hoffwn ddiolch i JISC Cymru am eu cefnogaeth wrth drefnu'r gynhadledd hon, ac i Goleg Merthyr am ein caniatau i ddefnyddio'u cyfleusterau.

RHESTR AROS:

Rydym wedi cael ymateb gwych i'r Gynhadledd Technoleg a Dwyieithrwydd eleni, ac o ganlyniad mae'r gynhadledd bellach yn llawn. Mae gennym restr aros felly ydych wedi cofrestru, ond erbyn hyn ddim yn gallu dod, a fyddech cystal ag e-bostio post16@colegcymraeg.ac.uk i roi gwybod i ni.

Rhaglen y Gynhadledd

10:00

Cofrestru a phaned 

10:20

Gair o groeso

Aled Eirug, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

10:30

Prif siaradwr – Indeg Marshall, Llywodraeth Cymru

Technoleg a’r Gymraeg – y dyfodol

11:15

Trafodaeth banel 

'Y defnydd o dechnoleg ers COVID'

12:00

Darlith - Gruff Prys, Prifysgol Bangor

AI i’r Gymru Ddwyieithog  

12:30

Cinio a chyfle i ymweld â’r stondinau

13:15

Sesiwn gyntaf y prynhawn (mynychwyr i ddewis un o’r sesiynau canlynol):

·   Trafodaeth banel - Datblygiadau arloesol mewn technoleg

·   Cyflwyniad i'r Teclyn Iaith (Mary Richards)

·   Ymchwil Defnyddiwr – ‘Porth Adnoddau'r Coleg - Datblygiadau i'r dyfodol...?’ (Joanna Evans, Coleg Cymraeg Cenedlaethol)

13:45

Cyfle am sgwrs  / ymweld â’r stondinau

14:00

Ail sesiwn y prynhawn

(mynychwyr i ddewis un o’r sesiynau canlynol):

·     Trafodaeth banel - Defnyddio Technoleg i Gymdeithasu'n Gymraeg  

·     Trochi mewn technoleg yn y sector addysg bellach (Marion Evans)

·     Gweithdy - A.I - lle i ddechrau? (Mary Richards)

14:40

Sesiynau grŵp - adlewyrchu ar y dydd dros baned

15:10

Sylwadau cloi - Meri Huws, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

15:15

Diwedd