Dyddiad: 30/06/23
Lleoliad: Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ac ar-lein
Cynhadledd ryngddisgyblaethol i bawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i drafod gydag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.
Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Mae’r gynhadledd hefyd yn gyfle i rwydweithio gydag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.
Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr ymchwil a staff rannu eu hymchwil yn Gymraeg a chyfarfod academyddion eraill.
Cynhelir y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni eto, gyda chynulleidfa wyneb yn wyneb yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledir yn fyw i gynulleidfa rithiol.
Dyma'r papurau byw fydd yn cael eu cyflwyno yn ystod y gynhadledd:
- 'Iaith a Diwylliant yn Llys Chwarter Bwrdeistref Abertawe, 1891-1914' - Alpha Evans (Prifysgol Abertawe)
- 'Ai ffaith yw ffaith beth bynnag yr iaith? Sut mae triniaeth y cyfieithydd ar y pryd yn y llys o betrusiadau yn effeithio ar ganfyddiad y rheithgor o’r diffynnydd' - Non Shafto-Humphries (Prifysgol Aberystwyth)
- '‘Dysgwyr’, ‘Siaradwyr Newydd’ a 'Siaradwyr Brodorol’: acen a hunaniaeth unigolion sy’n dysgu Cymraeg fel oedolion' - Meinir Williams (Prifysgol Bangor)
- 'Chwiliedyddion lanthanid ar gyfer pH ffisiolegol a chellog' - Rhodri Mir Williams (Prifysgol Rhydychen)
- 'Ymgyrchu gwleidyddol llawr gwlad: Dadansoddi twf YesCymru ac annibyniaeth i Gymru' - Llion Carbis (Prifysgol Caerdydd)
- 'Arddull Arweiniant a Rheolaeth Gymreig' - Steffan James (Prifysgol De Cymru)
- 'Profiadau myfyrwyr cyfrwng Cymraeg yn pontio i'r brifysgol yn ystod Covid-19' - Dyddgu Hywel (Prifysgol Metropolitan Caerdydd)
- 'Ymchwilio cancr cychwynnol ar yr ysgyfaint gan ddefnyddio tafelli ysgyfaint wedi'u manwl-dorri' - Ellis Evan Jones (Prifysgol Caerdydd)
Dyddiad cau cofrestru: 16 Mehefin 2023
Cynhelir hefyd brynhawn o hyfforddiant sgiliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd ar y thema 'Cyfathrebu Ymchwil' ddiwrnod cyn y gynhadledd, ac mae rhagor o wybodaeth drwy'r ddolen isod.