Dyddiad: 30/06/23
Lleoliad: Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ac ar-lein
Cynhadledd ryngddisgyblaethol i bawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a beth bynnag yw’r ddisgyblaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil ac i drafod gydag ymchwilwyr Cymraeg eraill o’r un anian.
Bwriad y gynhadledd yw rhoi cyfle i’r to nesaf o academyddion i dorri eu dannedd ar gyflwyno eu hymchwil gerbron cynulleidfa o gyfoedion. Mae’r gynhadledd hefyd yn gyfle i rwydweithio gydag ymchwilwyr Cymraeg eu hiaith ac i feithrin cymuned ehangach o academyddion sy'n hyrwyddo darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn ein prifysgolion.
Dyma gyfle gwych i fyfyrwyr ymchwil a staff rannu eu hymchwil yn Gymraeg a chyfarfod academyddion eraill.
Cynhelir y Gynhadledd hon ar ffurf hybrid eleni eto, gyda chynulleidfa wyneb yn wyneb yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth, ac fe’i darlledir yn fyw i gynulleidfa rithiol.
Rydym yn galw am bapurau ar hyn o bryd.