Skip to main content Skip to footer
mân lun cynhadledd methodolegau ymchwil

Cynhadledd Ymchwil Ieithoedd Leiafrifol

Dydd Mawrth, 9 Gorffennaf 2024 - Dydd Mercher, 10 Gorffennaf 2024
mân lun cynhadledd methodolegau ymchwil

Cynhadledd ‘Methodolegau ymchwil ac ymchwil i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol’

Prifysgol Aberystwyth, Cymru, DU

9 a 10 Gorffennaf 2024

(Mae pecyn cynadledd rhesymol ei bris ar gael yn cynnwys lletyensuite premiwm ar y campws ac opsiynau ffi un diwrnod neu ddauddiwrnod am fynychu)

Bydd y gynhadledd hon yn ystyried methodolegau i ymchwilio i’r prif heriau sy’n wynebu llunwyr ac ymarferwyr polisi iaith a sut i fynd i’r afael â’r agweddau mwy ymarferol ar lunio a gweithredu polisi ym maes ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol (gan ddefnyddio iaith y Siarter Ewropeaidd Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol). Rhoddir sylw hefyd i ymateb i her Oakes o ail-gysylltu â gwreiddiau rhyngddisgyblaethol polisi a chynllunio iaith drwy ystyried ymwneud amlddisgyblaethol cyfredol gyda’r maes a’r posibiliad o ehangu hynny yn bellach.  Yr her yw ymateb i’r cymhlethdod a’r her o feithrin cysylltiadau ar draws disgyblaethau wrth ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol.

Ymysg y meysydd o diddordeb allweddol o ran ystyried methodolegau i ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol fydd:

  • hyrwyddo defnydd iaith, yn enwedig ymchwilio i’r ffactorau a’r gwerthoedd sy’n effeithio ar ddefnydd cymdeithasol o iaith;
  • cynnwys llais plant a phobl ifanc, a grwpiau sydd ar y cyrion wrth ymchwilio i ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol;
  • ymchwilio dwyieithrwydd;
  • potensial gwyddor y werin mewn ymchwil yn y maes;
  • methodolegau ar gyfer gwerthuso polisïau a chynlluniau iaith sy’n rhan o bolisi cyhoeddus;
  • tirweddau iaith;
  • ymchwil i dechnoleg a ieithoedd rhanbarthol neu leiafrifol a/neu ddefnyddio technoleg fel arf ymchwil mewn ymchwil i’r ieithoedd hyn;
  • ymchwil amlddisgyblaethol a’r heriau sy’n galw am ymchwil amlddisgyblaethol, er enghraifft effaith newid hinsawdd ar gymunedau ieithoedd lleiafrifol, ieithoedd llai a deallusrwydd artiffisial.

O ran trefn y gweithdy, bydd y sesiynau yn amrywio:

  • sesiynau dan arweiniad siaradwyr gwadd
  • sesiynau panel ar fformat cyflwyno papurau, neu fformat trafodaeth banel
  • Posteri

 

Poster bach y gynhadledd