Dyddiad: 19/03/24
Amser: 18:00
Lleoliad: Neuadd Powis, Prifysgol Bangor, LL57 2DG
Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal ei Gynulliad Blynyddol wyneb yn wyneb ar 19 Mawrth 2024 yn Neuadd Powis, Prifysgol Bangor.
Ar y noson bydd tystysgrifau yn cael eu cyflwyno i'r myfyrwyr sydd wedi cyflawni PhD dan nawdd y Coleg Cymraeg, yn ogystal bydd tri Chymrawd er Anrhydedd yn cael eu urddo am eu gwaith a’u cyfraniad gydol oes yn y maes addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog.
Cofrestrwch eich presenoldeb drwy llenwi'r ffurflen islaw. Mae angen cofrestru cyn 8 Mawrth.
Am wybodaeth pellach cysylltwch â gwybodaeth@colegcymraeg.ac.uk