Dyddiad: 25/03/25
Amser: 18:00
Lleoliad: Canolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth
Bydd Cynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Medrus, Prifysgol Aberystwyth am 18:00, dydd Mawrth, 25 Mawrth 2025.
Bydd y digwyddiad yn gyfle i ddathlu 20 mlwyddiant Cynllun Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg a chyflwyno tystysgrifau i’r myfyrwyr sydd wedi cyflawni PhD dan nawdd y Coleg eleni.
Yn ogystal byddwn ni’n urddo Cymrodyr er Anrhydedd am eu gwaith a’u cyfraniad gydol oes yn y maes addysg drydyddol Cymraeg a dwyieithog.
Byddwn yn cymryd y cyfle i dalu teyrnged i’r Athro Geraint H. Jenkins, a fu farw ym mis Ionawr. Roedd Geraint yn un o haneswyr mwyaf nodedig Cymru, yn gyn-bennaeth ac yn arweinydd ysbrydoledig yr adran Hanes Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Roedd yn frwd iawn ei gefnogaeth i addysg prifysgol ac ymchwil drwy gyfrwng y Gymraeg, yn awdur nifer o gyfrolau, yn olygydd y gyfres ddylanwadol fel Cof Cenedl, ac yn un a roddai pwys mawr ar annog a chefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.