Dyddiad: 21/03/23
Amser: 18:00
Lleoliad: Tramshed, Stryd Clare, Caerdydd, CF11 6QP
Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal ei Gynulliad Blynyddol wyneb yn wyneb ar 21 Mawrth 2023 yn adeilad y Tramshed yng Nghaerdydd.
Pwrpas y digwyddiad yw dathlu llwyddiant myfyrwyr sydd wedi cyflawni PhD dan nawdd y Coleg a chyflwyno tystysgrifau iddynt, yn ogystal ag urddo tri Chymrawd er Anrhydedd am eu gwaith a’u cyfraniad gydol oes yn y maes addysg ôl-orfodol Cymraeg a dwyieithog.