Skip to main content Skip to footer
mân lun cyrchfannau'r dyfodol

Cystadleuaeth Cyrchfannau'r Dyfodol

Dydd Llun, 2 Medi 2024 - Dydd Gwener, 31 Ionawr 2025
mân lun cyrchfannau'r dyfodol

Cystadleuaeth ‘Cyrchfannau’r Dyfodol’ 2024

  • Am ennill £200?
  • Mewn addysg ôl-16 ?
  • Yn gwneud Bagloriaeth Cymru?
  • Gwneud modiwl ‘Cyrchfannau’r Dyfodol’

Dyma gyfle i ennill £200 i’r disgybl, ynghyd â £100 i’r ysgol wrth gyflwyno prosiect ‘Menter’ neu ‘Busnes Cymdeithasol’ orau!

Cefndir

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad gyda Chyd-Bwyllgor Addysg Cymru ac adrannau Busnes prifysgolion Cymru, yn trefnu cystadleuaeth i ddisgyblion Bagloriaeth Cymru sy'n dilyn modiwl 'Cyrchfannau'r Dyfodol'.

O fewn modiwl Cyrchfannau'r Dyfodol, gall disgyblion gyflwyno prosiect sy'n ymwneud â Mentergarwch a Mentrau Cymdeithasol. Mae'r modiwl yn gofyn i ddisgyblion greu cynllun busnes ar gyfer nwydd/adnodd/digwyddiad sy'n gwneud cyfraniad i gymuned, naill ai lleol neu fwy eang.

Poster cyrchfannau'r dyfodol

Manylion am y Gystadleuaeth

Bydd cystadleuaeth newydd y Coleg yn gwobrwyo:

  • y syniad mwya’ gwreiddiol neu arloesol neu y syniad bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’r gymuned.  
  • rydym hefyd am wobrwyo'r syniad gorau sydd yn defnyddio’r iaith Gymraeg fel rhan o’r syniad.  

Sut mae Cystadlu?

Yr oll sydd angen gwneud yw bod yr athro sy’n gyfrifol am y modiwl yn danfon y prosiect neu brosiectau ymlaen at s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk.   

Mae’r prosiect yn rhan o fodiwl ‘Cyrchfannau’r Dyfodol’ Bagloriaeth Cymru felly NID oes angen unrhyw waith ychwanegol gan y disgybl. Gofynnwn i’r athro neu ganolfan benderfynu ar y prosiect neu brosiectau gorau a’u danfon atom.

Beth wedyn?

Bydd beirniaid, sy’n cynnwys darlithwyr Busnes trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Met Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a De Cymru, yn dewis y prosiectau gorau.

Gwobrau

  • £200 i'r enilydd
  • £100 yr un i'r 3 nesaf

Bydd pob ysgol sydd yn y pedwar buddugol hefyd yn derbyn £100 yr un.  

  • £100 - bydd un Gwobr Menter ar gyfer y prosiect sy’n gwneud y  gwahaniaeth fwyaf i'r Gymraeg

Pryd?

Rhaid danfon y ceisiadau atom erbyn y 31 Ionawr 2025. 
Gobeithiwn gynnal cyfle i gyflwyno ar gyfer yr ail gystadleuaeth erbyn 30 Mehefin 2025. 

Danfonwch eich ceisiadau at:

Siôn Jobbins s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk.