Cystadleuaeth ‘Cyrchfannau’r Dyfodol’ 2024
- Am ennill £200?
- Mewn addysg ôl-16 ?
- Yn gwneud Bagloriaeth Cymru?
- Gwneud modiwl ‘Cyrchfannau’r Dyfodol’
Dyma gyfle i ennill £200 i’r disgybl, ynghyd â £100 i’r ysgol wrth gyflwyno prosiect ‘Menter’ neu ‘Busnes Cymdeithasol’ orau!
Cefndir
Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cydweithrediad gyda Chyd-Bwyllgor Addysg Cymru ac adrannau Busnes prifysgolion Cymru, yn trefnu cystadleuaeth i ddisgyblion Bagloriaeth Cymru sy'n dilyn modiwl 'Cyrchfannau'r Dyfodol'.
O fewn modiwl Cyrchfannau'r Dyfodol, gall disgyblion gyflwyno prosiect sy'n ymwneud â Mentergarwch a Mentrau Cymdeithasol. Mae'r modiwl yn gofyn i ddisgyblion greu cynllun busnes ar gyfer nwydd/adnodd/digwyddiad sy'n gwneud cyfraniad i gymuned, naill ai lleol neu fwy eang.
Manylion am y Gystadleuaeth
Bydd cystadleuaeth newydd y Coleg yn gwobrwyo:
- y syniad mwya’ gwreiddiol neu arloesol neu y syniad bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’r gymuned.
- rydym hefyd am wobrwyo'r syniad gorau sydd yn defnyddio’r iaith Gymraeg fel rhan o’r syniad.
Sut mae Cystadlu?
Yr oll sydd angen gwneud yw bod yr athro sy’n gyfrifol am y modiwl yn danfon y prosiect neu brosiectau ymlaen at dyfodol@colegcymraeg.ac.uk.
Mae’r prosiect yn rhan o fodiwl ‘Cyrchfannau’r Dyfodol’ Bagloriaeth Cymru felly NID oes angen unrhyw waith ychwanegol gan y disgybl. Gofynnwn i’r athro neu ganolfan benderfynu ar y prosiect neu brosiectau gorau a’u danfon atom.
Beth wedyn?
Bydd beirniaid, sy’n cynnwys darlithwyr Busnes trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhrifysgolion Met Caerdydd, Aberystwyth, Bangor, Caerdydd a De Cymru, yn dewis y prosiectau gorau.
Gwobrau
- £200 i'r enilydd
- £100 yr un i'r 3 nesaf
Bydd pob ysgol sydd yn y pedwar buddugol hefyd yn derbyn £100 yr un.
- £100 - bydd un Gwobr Menter ar gyfer y prosiect sy’n gwneud y gwahaniaeth fwyaf i'r Gymraeg
Pryd?
Rhaid danfon y ceisiadau atom erbyn y 31 Ionawr 2025.
Gobeithiwn gynnal cyfle i gyflwyno ar gyfer yr ail gystadleuaeth erbyn 30 Mehefin 2025.
Danfonwch eich ceisiadau at:
Siôn Jobbins s.jobbins@colegcymraeg.ac.uk.