Skip to main content Skip to footer
traethawd tri munud, logo coleg cymraeg, logo cymdeithas ddysgedig

Cystadleuaeth Traethawd Tri Munud

Dydd Gwener, 5 Ebrill 2024 - Dydd Llun, 1 Gorffennaf 2024
traethawd tri munud, logo coleg cymraeg, logo cymdeithas ddysgedig

Dyddiad: 13:00, 9 Awst 2024

Lleoliad: Stondin y Coleg yn yr Eisteddfod

Fedri di esbonio dy ymchwil i’r cyhoedd mewn llai na thri munud? Fedri di wneud hynny gyda dim ond UN sleid? Rho gynnig arni yn ein cystadleuaeth Traethawd Tri Munud!

Mae'r gystadleuaeth, a drefnir gan y Coleg Cymraeg a Rhwydwaith Ymchwilwyr Gyrfa Gynnar Cymdeithas Ddysgedig Cymru, yn agored i unrhyw fyfyriwr ôl-radd neu ymchwilydd gyrfa gynnar. Dylid cyfyngu cyflwyniadau i un sleid PowerPoint, a gwahoddir siaradwyr i fod yn greadigol gyda sut maent yn arddangos gwybodaeth ar y sleid hon e.e. defnyddio delweddau neu ddiagramau, yn hytrach na thestun.

Gwobr: £50

Bydd y panel beirniadu yn rhyngddisgyblaethol ac yn cynnwys rhywun o'r gwyddorau cymdeithasol, y gwyddorau a'r dyniaethau.

I fynegi diddordeb i gystadlu yn y gystadleuaeth, llenwa'r ffurflen isod erbyn 1 Gorffennaf 2024.