Bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal derbyniad ar ddydd Mercher, 5 Awst, 2026 am 4yp ar stondin Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant ar faes Eisteddfod Genedlaethol y Garreg Las.
Mae’r derbyniad yn gyfle i ddod ynghyd i gymdeithasu ac i ddathlu gwaith y Coleg, yn ogystal â chyflwyno gwobrau i fyfyrwyr ac i gyhoeddi enillwyr Bwrsariaeth Dr Llŷr Roberts
Mae'r digwyddiad hwn trwy wahoddiad yn unig. Os ydych wedi derbyn gwahoddiad gennym dros e-bost, gofynnwn i chi gofrestru eich presenoldeb drwy lenwi'r ffurflen islaw erbyn 31 Gorffennaf neu mor gynted a phosib os gwelwch yn dda.