Skip to main content Skip to footer
Galwad am bapurau

Digwyddiad Rhannu Arfer Da: Galwad am Bapurau

Dydd Mawrth, 5 Mawrth 2024 - Dydd Mercher, 27 Mawrth 2024
Galwad am bapurau

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn cynnal Digwyddiad Rhannu Arfer Da - Rhagoriaeth Academaidd ar yr 2il (wyneb yn wyneb) a’r 3ydd (ar-lein) Gorffennaf 2024.

Mae’r digwyddiad hwn wedi bod yn bosibl oherwydd arian y Prosiect Grantiau Bach gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Nod y digwyddiad deuddydd yw cyflwyno papurau o dan y thema Rhagoriaeth Addysgu – er enghraifft:

  • Dysgu ac Addysgu
  • Dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg
  • Cymorth i Fyfyrwyr
  • Goruchwylio
  • Tiwtora Personol

Bydd y papurau academaidd yn gyfle i staff ar draws Cymru gyflwyno eu hymchwil, o dan y thema ymarfer academaidd - trwy bapurau, posteri, paneli ac ati. Croesewir cyflwyniadau yn y digwyddiad gan unrhyw un sy'n addysgu o staff i fyfyrwyr PhD.

Mae'r cais am gynigion, yn y ddolen isod, yn gofyn am gyflwyniadau heb fod yn fwy na 500 gair trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn croesawu cyfraniadau i'r digwyddiad ar ffurf: 

  • 20 munud o gyflwyniad
  • 45 munud o gyflwyniad
  • Cyflwyniad unigol neu grŵp
  • Posteri gan unigolion neu grwpiau
  • Paneli rhannu arfer da 

Y dyddiad cau ar gyfer y cynigion yw canol dydd, dydd Mercher, 27 Mawrth 2024

Am ragor o wybodaeth cysylltwch gydag Annette Edwards, aee@aber.ac.uk