Skip to main content Skip to footer
Mân lun gwobrau 2023

Enwebu ar gyfer Gwobrau 2023

Dydd Llun, 30 Ionawr 2023 - Dydd Gwener, 10 Mawrth 2023
Mân lun gwobrau 2023

Hoffech chi enwebu rhywun/rhywrai sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eich sefydliad? Mae'r Noson Wobrau yn cynnig cyfle gwych i gydnabod eu gwaith a’u cyfraniad.

Mae panel o swyddogion y Coleg ac aelodau allanol yn dyfarnu’r gwobrau hyn, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr yn Noson Wobrau’r Coleg ym Mehefin 2023.

Mae’r cyfle i enwebu unigolion ar gyfer y gwobrau hyn nawr AR AGOR! Gallwch gyflwyno eich enwebiadau gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu isod. Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw hanner dydd, 10 Mawrth 2023.
 
Dyma’r Gwobrau y gallwch enwebu unigolion ar eu cyfer eleni:

Gwobrau Addysg Bellach a Phrenisiaethau:

  • Gwobr Cynllun Gwreiddio - Addysgwr Arloesol
  • Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfraniad arbennig
  • Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfoethogi profiad y dysgwr/prentis
  • Gwobr Addysg Bellach William Salesbury
  • Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce

Gwobrau Addysg Uwch

  • Gwobr Merêd
  • Gwobr Eilir Hedd Morgan
  • Gwobr Meddygaeth William Salesbury
  • Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol
  • Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Gwobr y myfyrwyr
  • Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg

Bydd Noson Wobrau'r Coleg yn cael ei gynal ar 13 Mehefin 2023.