Hoffech chi enwebu rhywun/rhywrai sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eich prifysgol neu coleg addysg bellach? Mae Gwobrau'r Coleg yn cynnig cyfle gwych i gydnabod eu gwaith a’u cyfraniad. Mae amryw o gategorïau i wobrwyo myfyrwyr, dysgwyr, prentisiaid a darlithwyr.
Mae’r cyfle i enwebu unigolion ar gyfer y gwobrau hyn nawr AR AGOR! Gallwch gyflwyno eich enwebiadau gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw hanner dydd, 8 Mawrth 2024.
Dyma’r Gwobrau y gallwch enwebu unigolion ar eu cyfer eleni:
Gwobrau Addysg Bellach a Phrentisiaethau:
- Gwobr Cynllun Gwreiddio - Addysgwr Arloesol
- Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfraniad arbennig
- Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfoethogi profiad y dysgwr/prentis
- Gwobr Addysg Bellach William Salesbury
- Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce
Gwobrau Addysg Uwch
- Gwobr Merêd
- Gwobr Meddygaeth William Salesbury
- Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol
- Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Gwobr Dathlu'r Darlithydd
- Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg
Mae panel o swyddogion y Coleg ac aelodau allanol yn dyfarnu’r gwobrau hyn, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr mewn noson wobrau arbennig yng Nghanolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin ar 20 Mehefin 2024.