Skip to main content Skip to footer
Mân lun gwobrau 2023

Enwebu ar gyfer Gwobrau 2024

Dydd Mawrth, 30 Ionawr 2024 - Dydd Gwener, 8 Mawrth 2024
Mân lun gwobrau 2023

Hoffech chi enwebu rhywun/rhywrai sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eich prifysgol neu coleg addysg bellach? Mae Gwobrau'r Coleg yn cynnig cyfle gwych i gydnabod eu gwaith a’u cyfraniad. Mae amryw o gategorïau i wobrwyo myfyrwyr, dysgwyr, prentisiaid a darlithwyr.

Mae’r cyfle i enwebu unigolion ar gyfer y gwobrau hyn nawr AR AGOR! Gallwch gyflwyno eich enwebiadau gan ddefnyddio’r ffurflen enwebu

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno enwebiadau yw hanner dydd, 8 Mawrth 2024.


 
Dyma’r Gwobrau y gallwch enwebu unigolion ar eu cyfer eleni:

Gwobrau Addysg Bellach a Phrentisiaethau:

  • Gwobr Cynllun Gwreiddio - Addysgwr Arloesol
  • Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfraniad arbennig
  • Gwobr Cynllun Gwreiddio - Cyfoethogi profiad y dysgwr/prentis
  • Gwobr Addysg Bellach William Salesbury
  • Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce

Gwobrau Addysg Uwch

  • Gwobr Merêd
  • Gwobr Meddygaeth William Salesbury
  • Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol
  • Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Gwobr Dathlu'r Darlithydd
  • Gwobr Darlithwyr Cysylltiol - Cyfraniad Eithriadol i addysg cyfrwng Cymraeg

Mae panel o swyddogion y Coleg ac aelodau allanol yn dyfarnu’r gwobrau hyn, a byddant yn cael eu cyflwyno i’r enillwyr mewn noson wobrau arbennig yng Nghanolfan S4C yr Egin, Caerfyrddin ar 20 Mehefin 2024.