Skip to main content Skip to footer
mân lun galwad am bapurau

Cynhadledd Ymchwil 2026: Galwad am bapurau

Dydd Mercher, 14 Ionawr 2026 - Dydd Mercher, 22 Ebrill 2026
mân lun galwad am bapurau

Beth am gynnig papur neu boster ymchwil ar gyfer y Gynhadledd Ymchwil eleni? 

Cynhelir y Gynhadledd Ymchwil ar 25–26 Mehefin 2026 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth, ac ar-lein.

Gellir cynnig un o'r canlynol: 

  • Cyflwyniad byw - 20 munud o hyd (gyda 10 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau) 
  • Poster Ymchwil 

Mae gwobr o £50 i'r poster ymchwil gorau.

Rydyn ni'n awyddus i dderbyn cynigion gan unigolion sy'n ymchwilio i bob math o bynciau, ac sy'n cynrychioli ystod eang o brofiad - o fyfyrwyr ôl-radd sydd ond megis dechrau ar eu hymchwil, i staff academaidd sydd â blynyddoedd o brofiad ac wedi cyhoeddi'n helaeth. Dyma gyfle euraid i rannu dy ymchwil drwy'r Gymraeg, ac mae croeso i bawb gynnig!

Mae'r Coleg Cymraeg wedi ymrwymo i egwyddorion o gydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, ac felly rydyn ni'n annog ceisiadau gan unigolion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn ogystal ag unigolion o grwpiau eraill sydd wedi eu tangynrychioli.

Disgwylir i gyflwynwyr, gan gynnwys cyflwynwyr posteri, fod ar gael i gyflwyno yn Aberystwyth yn hytrach nag ar-lein. Ad-delir costau teithio a darperir llety i unigolion sy'n cyflwyno yn y Gynhadledd.

I gynnig papur neu boster, llenwa'r ffurflen isod erbyn canol nos, dydd Mercher, 22 Ebrill 2026.

Am ragor o wybodaeth neu gwestiynau, cysyllta â Dr Manon James: m.james@colegcymraeg.ac.uk