Beth am gynnig papur neu boster ymchwil ar gyfer y Gynhadledd Ymchwil eleni?
Gellid cynnig un o'r canlynol:
- Cyflwyniad byw - 20 munud o hyd (gyda 10 munud ychwanegol ar gyfer cwestiynau)
- Poster Ymchwil
Mae gwobr o £50 i'r poster ymchwil gorau, a chaiff y gystadleuaeth ei beirniadu gan Dr Hywel Griffiths.
Rydyn ni'n gobeithio derbyn cynigion gan unigolion sy'n ymchwilio i bob math o bynciau, ac sy'n cynrychioli ystod eang o brofiad - o fyfyrwyr ôl-radd sydd ond megis dechrau ar eu hymchwil, i staff academaidd sydd â blynyddoedd o brofiad ac wedi cyhoeddi'n helaeth. Gwahoddir gwyddonwyr, dyniaethwyr a chymdeithasegwyr o bob cwr o Gymru a thu hwnt i rannu ffrwyth eu hymchwil. Mae croeso i bawb gynnig!
Mae'r Coleg Cymraeg wedi ymrwymo i egwyddorion o gydraddoldeb, amrywiaeth a gwrth-hiliaeth, ac felly rydym yn annog cynigion gan unigolion Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, yn ogystal ag unigolion o grwpiau eraill sydd wedi eu tangynrychioli.
Mae cyflwyniadau a phosteri Cynhadledd Ymchwil 2023 i'w gweld ar Y Porth.
Anfonwch eich cynnig ar gyfer papur / poster (crynodeb 300 gair + paragraff o fywgraffiad) at m.james@colegcymraeg.ac.uk erbyn canol dydd, Dydd Mawrth, 30 Ebrill 2024.
Cynhelir y Gynhadledd Ymchwil yn Y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth (ac ar-lein) ar 28 Mehefin 2024.
Disgwylir i gyflwynwyr, gan gynnwys cyflwynwyr posteri ymchwil, fod yn bresennol yn Aberystwyth.
Ad-delir costau teithio a darperir llety i unigolion sy'n cyflwyno yn y Gynhadledd.