Skip to main content Skip to footer
hanna hopwood

Gosod nodau ac amcanion ar gyfer ymchwilwyr

Dydd Llun, 20 Mai 2024
hanna hopwood

Dydd Llun, 20 Mai, 11am, ar-lein 

Gweithdy dan ofal Dr Hanna Hopwood i fyfyrwyr ôl-radd i rannu cyngor ar sut i wneud y gorau o dy amser a dy egni wrth ymchwilio.

Cyn y gweithdy, byddai'n fuddiol i'r mynychwyr wylio'r fideo hwn sy'n trafod ac yn rhannu cynghorion ar agweddau fel:

  • Pa fath o ddysgwr ydw i?
  • Beth sydd yn mynd i fy helpu i yn bersonol wrth osod fy nodau ac amcanion ymchwilio?
  • Pa fath o awyrgylch a phatrwm astudio sy’n gweithio i mi?
  • Beth sy’n medru helpu gosod arferion da?
  • Sut y gallaf strwythuro fy amser yn effeithiol?
  • Pa strategaethau sy’n medru gweithio wrth osod nodau ac amcanion?
  • Sut y gallaf wneud y gorau o fy amser a fy egni?

Bydd y gweithdy'n mynd yn ddyfnach i'r cwestiynau uchod ac yn gyfle i rannu arferion da a chynghorion pellach. Mae'r gweithdy'n cyd-fynd ag adnodd newydd fydd ar y Porth Adnoddau.

Mae Dr Hanna Hopwood yn ddarlithydd yn Adran Ieithyddiaeth, Prifysgol Rhydychen. Mae hi hefyd yn rheolydd prosiectau ac ar fin cwblhau'r ILM Lefel 7 mewn coetsio a mentora gweithredol. At hyn, mae hi wedi dilyn sawl cwrs ar Therapi Tosturi (Compassion Focused Therapy) ac yn plethu'r modelau o'r ddysgeidiaeth honno ar bob cyfle posib i'w gwaith bob dydd.

Cofrestra i ymuno drwy'r ddolen isod - mae croeso mawr i unrhyw fyfyriwr ôl-radd!