Skip to main content Skip to footer
sion jones

Cyflwyniad a gweithdy rhannu arferion da wrth addysgu mewn iaith leiafrifiedig mewn prifysgolion

Dydd Mercher, 20 Mawrth 2024
sion jones

Dydd Mercher, 20 Mawrth, 2pm, ar-lein

Cyflwyniad a gweithdy dan ofal Dr Siôn Jones o Brifysgol Caerdydd i gyd-fynd ag adnodd newydd sydd ar Y Porth Adnoddau

Arferion da wrth ddatblygu darpariaeth addysgol ac addysgu mewn iaith leiafrifiedig mewn prifysgolion: enghreifftiau o Gymru ac Iwerddon 

Rhennir arferion da wrth ddatblygu darpariaeth addysgol ac addysgu mewn iaith leiafrifiedig ar lefel prifysgol. Mae'r arferion da yn deillio o grwpiau ffocws a gynhaliwyd gyda darlithwyr a myfyrwyr ym mhrifysgolion yng Nghymru ac Iwerddon. Trafodir arferion da wrth annog myfyrwyr i astudio mewn iaith leiafrifiedig; datblygu darpariaeth mewn iaith leiafrifiedig; addysgu mewn iaith leiafrifiedig; cefnogi myfyrwyr mewn iaith leiafrifiedig; asesiadau mewn iaith leiafrifiedig a normaleiddio defnydd o’r iaith leiafrifiedig ymysg myfyrwyr.  

Yn ystod y gweithdy, bydd cyfle i chi rannu eich arferion da chi o ran datblygu darpariaeth addysgol ac addysgu mewn iaith leiafrifiedig ar lefel prifysgol.