Skip to main content Skip to footer
Rhowch disgrifiad amgen i'r llun fan hyn

Gweminar Cyflogadwyedd Mathemateg

Dydd Llun, 19 Mehefin 2023 - Dydd Llun, 19 Mehefin 2023
Rhowch disgrifiad amgen i'r llun fan hyn

Dyddiad: Dydd Llun, 19 Mehefin 2023

Amser: 09:15 - 10:15

Lleoliad: Ar-lein

Hoffi Mathemateg?

Eisiau gwybod mwy am yr ystod eang o yrfaoedd sydd modd i chi eu hystyried ar ôl astudio gradd Mathemateg?

Peidiwch a cholli'r cyfle i ymuno gyda graddedigion Mathemateg yn y sesiwn ar-lein yma, pan fyddant yn rhannu:

  • profiadau o fuddion gradd mewn Mathemateg
  • sut mae’r radd wedi eu helpu yn eu gyrfa
  • rhagflas o’i gwaith.

 

Siaradwyr:

  • Gareth Lanagan - Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion i Awdurdod Lleol Ceredigion. Yn flaenorol fuodd yn arbenigwr y tywydd i’r BBC a S4C, darlithydd mathemateg yng Ngholeg Meirion-Dwyfor, arweinydd prosiect e-sgol ar draws Cymru. 
  • Llio Marian Davies - Athrawes
  • Dafydd Griffith - Cyfrifydd
  • Heledd Rees - Ystadegydd
  • Sioned Owen - Dadansoddwr Data