Skip to main content Skip to footer
gweminar datblygu staff

Gweminar Datblygu Staff: Goruchwylio myfyrwyr ymchwil

Dydd Mawrth, 23 Ionawr 2024
gweminar datblygu staff

Dydd Mawrth, 23 Ionawr 2024, 3pm, ar-lein

Gweminar i rannu profiadau ac arferion da o oruchwylio myfyrwyr ymchwil.

Bydd panel yn rhannu eu profiadau ac arferion da wrth oruchwylio myfyrwyr ymchwil, ac o gael eu goruchwylio. Trafodir beth sy’n gwneud goruchwyliwr da, pa ddulliau gellir eu defnyddio i hybu’r berthynas rhwng goruchwyliwr a myfyriwr ymchwil, a beth yw’r disgwyliadau. Bydd cyfle hefyd i’r gynulleidfa gyfrannu at y drafodaeth drwy rannu eu profiadau o oruchwylio, a’r cyfleoedd a’r anawsterau all godi.

Anelir y gweithdy hwn at staff sydd yn, neu sy’n awyddus i, oruchwylio myfyrwyr ôl-radd.

Aelodau'r panel: 

  • Yr Athro Enlli Thomas, Athro yn yr Ysgol Addysg a Dirprwy Is-ganghellor Cysylltiol, Prifysgol Bangor
  • Dr Bleddyn Owen Huws, Uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth
  • Dr Hefin Jones, Uwch-ddarlithydd yn Ysgol y Biowyddorau, Prifysgol Caerdydd
  • Alpha Evans, ymchwilydd PhD yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe