Skip to main content Skip to footer
llygaid menwy tu ol i ddwylo

Gwrachod Da a Gwrachod Drwg

Dydd Mercher, 24 Ebrill 2024
llygaid menwy tu ol i ddwylo

Dwy sesiwn drafod dan ofal Siân Melangell Dafydd o Brifysgol Bangor yn edrych ar hanes Gwrachod Cymru ac ym mywyd Cymru heddiw. Ymunwch â ni - mae croeso i bawb.

Nos Fercher 24 Ebrill 2024, 7.30pm

Beth oedd gwrach dda a gwrach ddrwg? 

A ydi’n iawn meddwl am wrachyddiaeth fel crefydd? 

A oedd brwydr yn erbyn byd natur yn sail i’r frwydr yn erbyn y 'wrach'?

Yn y digwyddiad ar-lein yma trwy gyfrwng y Gymraeg, bydd Siân Melangell Dafydd yn trafod gwrachod hanesyddol a chyfredol Cymru gyda Gareth Evans-Jones.

Mae Siân Melangell Dafydd yn awdur, bardd, cyfieithydd, naturiaethwr, athro yoga. Coel Gwrach yw ei phrosiect ymchwil a chreadigol sy’n ddatblygiad naturiol o’i chefndir yn fforio a byw mewn ffordd a fyddai wedi cael ei ystyried yn amheus (ac sydd hyd heddiw gan rai). Mae’n amser i stori’r pump a gafodd eu herlid am fod yn ‘witch’ yng Nghymru gael ei adrodd yn eu hiaith eu hunain. Yn sgil fforio am wybodaeth, mae cwestiynau eraill wedi codi, gwerthfawrogiad o eirfa a thraddodiadau Cymraeg a Chymreig. Rhan o ymchwil Coel Gwrach yw’r sgyrsiau hyn.

Un o ynys gwrachod Llanddona ydi Gareth Evans-Jones (Môn), ac mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd ym Mhrifysgol Bangor. Bu’n ffodus i ennill Medal Ddrama’r Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith a gwobr Ffeithiol Greadigol 2023 am ei gyfrol o lenyddiaeth a ffotograffau, Cylchu Cymru. Ei nofel ddiweddaraf ydi Y Cylch, sy’n dilyn criw o wrachod modern mewn Bangor ddychmygol. Mae gan Gareth ddiddordeb mewn gwrachyddiaeth fel traddodiad, crefydd a ffordd o fyw, a hanes gwrachod mewn cymdeithas. Ar hyn o bryd, mae’n llunio astudiaeth am y berthynas rhwng erledigaeth ‘gwrachod’ hanesyddol ac ecsbloetio’r byd naturiol.

Nos Fercher 24 Ebrill 2024, 7pm - ar-lein

Dr Delyth Badder a Sarah Huws sy'n trafod  gwrachod hanesyddol Cymru gyda Siân Melangell Dafydd.

Bydd dolen gofrestru yn ymddangos yn fuan.