Skip to main content Skip to footer
Man Lun Gŵyl yr Haf

Gŵyl yr Haf Cymraeg UG/Safon Uwch Ail Iaith

Dydd Iau, 4 Gorffennaf 2024
Man Lun Gŵyl yr Haf

Digwyddiad: Gŵyl yr Haf, Coleg Cymraeg Cenedlaethol + Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe

Dyddiad: Dydd Iau 4 Gorffennaf 2024

Amser: Digwyddiad diwrnod 10yb-3yp

Lleoliad: Canolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, Abertawe

Cynulleidfa: Dysgwyr Cymraeg Ail Iaith Bl.11 + Bl.12 

Cynhelir Gŵyl yr Haf yng Nghanolfan y Celfyddydau Taliesin, Prifysgol Abertawe, ddydd Iau 4 Gorffennaf 2024 rhwng 10yb a 3yp. 

Nod y diwrnod yw rhoi cyfle i ddysgwyr fydd yn astudio Cymraeg UG/Safon Uwch Ail Iaith ym mis Medi 2024 baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd nesaf, brofi elfennau o fyw a gweithio drwy gyfrwng yr iaith, a chael blas ar astudio’r Gymraeg yn y brifysgol.

Rydym yn gwahodd dysgwyr blwyddyn 12 presennol sy’n astudio’r pwnc ac yn estyn croeso am y tro cyntaf hefyd i unrhyw ddysgwyr blwyddyn 11 sydd wedi dangos diddordeb yn dewis y Gymraeg fel pwnc ym mis Medi.

Bydd y diwrnod yn cynnwys amrywiaeth o sesiynau astudio, gweithdai diddorol, ffair stondinau, cerddoriaeth a chyfle i gymdeithasu. Yr union amserlen i’w chyhoeddi maes o law.

Mae’r diwrnod, yn cynnwys yr holl weithgareddau a lluniaeth, i gyd am ddim, a gall y Coleg Cymraeg Cenedlaethol hefyd gyfrannu at gostau teithio ysgolion ac unigolion i gyrraedd Abertawe.

Mwy o fanylion yn y llythyr isod neu drwy gysylltu â ff.owen@colegcymraeg.ac.uk.

Mae'r ffurflen gofrestru gychwynnol ar gael isod. Bydd angen cofrestru erbyn 14 Mehefin fan bellaf.