Hyfforddiant i ddarlithwyr ac ymchwilwyr i ddatblygu eich sgiliau ymgysylltu â’r cyfryngau a rhannu eich gwaith mewn cyfweliadau gyda'r cyfryngau.
Bydd y gweithdy dan ofal Gwenfair Griffith ac Andrew Weeks o Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant (JOMEC) Prifysgol Caerdydd.
Dydd Mawrth, 8 Ebrill, 2pm, ar-lein.
Ydych chi eisiau datblygu eich sgiliau cyfathrebu? Eisiau gwybod sut i rannu eich gwaith yn llwyddiannus mewn cyfweliadau gyda'r cyfryngau? Dyma’r hyfforddiant i chi!
Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:
- Gwybodaeth am gyfleoedd i rannu eich gwaith ymchwil.
- Cyngor ar sut i ymateb mewn cyfweliadau gyda newyddiadurwyr am eich gwaith.
- Cyflwyniad a gweithdy anffurfiol.
- Cyfle gwych i feistroli'r technegau gorau ar gyfer ymgysylltu â'r cyfryngau a chyflwyno eich gwaith ar y radio, teledu a chyfryngau digidol.
Cofrestrwch drwy'r ddolen isod.