Dyddiad: 26 Gorffennaf 2023
Amser: 11yb - 11:45yb
Lleoliad: Stondin Coleg Sir Gâr, maes Sioe Frenhinol Cymru, Llanelwedd
Mae’r Coleg Cymraeg yn lansio adnodd pwysig ac arloesol, “Fferm Ddiogel” sy’n cynnig y profiad VR gorau i ddysgwyr sydd yn astudio amaethyddiaeth neu unrhyw un sydd yn gweithio yn y maes ac am ddysgu mwy am ddiogelwch fferm.
Yn ogystal, mae’r adnodd yn addas ar gyfer darlithwyr ac aseswyr sydd eisiau addysgu elfennau ymarferol o'r cwricwlwm amaeth ôl-16 mewn amgylchedd diogel a rheoledig.
Bydd sgwrs banel yn cael ei gadeirio gan Meri Huws, a bydd y panelwyr yn cynnwys myfyriwr a darlithwyr yn y maes amaethyddiaeth, a chyn-gyflwynydd Cefn Gwlad ar S4C, Rhys Lewis.
Bydd cyfle i arbrofi gyda'r dechnoleg ar ôl y digwyddiad
Darperir te, coffi a diodydd ysgafn.
Am fwy o wybodaeth cysylltwch gyda Nadine Kurton (n.kurton@colegcymraeg.ac.uk)
Ffurflen Gofrestru
Llenwch eich manylion islaw i gofrestru ar gyfer y digwyddiad