Skip to main content Skip to footer
gweithdy linkedin

LinkedIn i staff academaidd

Dydd Mercher, 3 Mehefin 2026
gweithdy linkedin

3 Mehefin | 10:30am | Ar-lein

Gweithdy i staff academaidd sy’n awyddus i ddatblygu eu presenoldeb proffesiynol ar LinkedIn. 

Yn ystod y gweithdy byddi di’n dysgu sut i ddefnyddio’r platfform yn effeithiol i: 

  • Rwydweithio’n broffesiynol
  • Hyrwyddo digwyddiadau a gweithgareddau
  • Datblygu a chryfhau dy broffil academaidd
  • Meithrin hyder i rannu cynnwys
  • Ymgysylltu â myfyrwyr a phartneriaid 
  • Rhannu dy waith 
  • Adeiladu a thyfu rhwydweithiau newydd yn dy faes 

Arweinir y sesiwn gan Mari Gwenllian Roberts ac Elinor Churchill o Adran Gyrfaoedd Prifysgol Bangor. Ceir hefyd gyfraniadau gan ddarlithwyr yn rhannu arferion da a phrofiadau personol o sut mae LinkedIn wedi cefnogi eu gwaith academaidd a’u datblygiad proffesiynol. 

Nodyn: Gofynnir i fynychwyr greu cyfrif LinkedIn cyn mynychu’r gweithdy.