Skip to main content Skip to footer
mân lun Perthyn

Perthyn

Dydd Llun, 20 Mawrth 2023
mân lun Perthyn

Mae Perthyn yn ddigwyddiad nodedig, dan arweiniad y cyflwynydd teledu Jason Mohammad ar gyfer dysgwyr 16-19 mlwydd oed yn bennaf, sydd wedi ei drefnu ar y cyd rhwng y Coleg Cymraeg Cenedlaethol a Choleg Caerdydd a’r Fro. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro yn arwain gwaith ar raglen gwrth-hiliaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y sector ôl-16. Rydym yn estyn gwahoddiad agored a chynnes i bob dysgwr sy’n siarad Cymraeg o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrif Ethnig.

Bydd y digwyddiad yn cael ei arwain gan y cyflwynydd teledu adnabyddus Jason Mohammed, a bydd nifer o siaradwyr Cymraeg Du ac Asiaidd nodedig yn cyfrannu at y digwyddiad a’r trafodaethau. Bydd cyfle i’r dysgwyr sy’n dymuno gwneud cael eu ffilmio hefyd fel rhan o’r diwrnod.

Cynhelir y digwyddiad yn y Senedd ar yr 20 Mawrth, 2023 gan gychwyn am ganol dydd. Bydd angen i bawb sy’n dymuno mynychu’r digwyddiad gofrestru erbyn y 15 Mawrth.