Skip to main content Skip to footer
Graffig Sesiwn Holi Pa Yrfa?

Sesiwn Holi Pa Yrfa: Gradd Cyfraith a Throseddeg

Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 2023 - Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 2023
Graffig Sesiwn Holi Pa Yrfa?
Cynhelir 2 sesiwn ar-lein i ddisgyblion sydd yn ystyried astudio'r GYFRAITH neu DROSEDDEG yn y Brifysgol.
Bydd yn gyfle da i darpar-fyfyrwyr gael syniad o beth yw cwrs Cyfraith a'r math o yrfa gall rhywun ddilyn gyda'r gradd. Mae'r sesiynau am ddim, ar-lein, byw ac yn anffurfiol gyda chyfle i holi cwestiynau.

7.00-7.40pm nos Fawrth 14 Tachwedd
Gweithio ym maes y Gyfraith - Sgwrs gyda phobl sydd wedi graddio mewn Cyfraith ac sydd nawr yn gweithio fel Cyfreithwyr:

Yr Athro Emyr Lewis (Cadeirio) - Pennaeth Adran y Gyfraith a Throseddeg Prifysgol Aberystwyth (Cadeirio). Cyn hynny yn bartner yng nghwmni cyfreithiol fawr yng Nghaerdydd

Siriol Jones - gweithio i Wasanaeth Erlyn y Goron (CPS)

Elin Gaffey - gweithio i'r Gwasanaeth Prawf

Tomos Lewis - cwmni Blake Morgan, Caerdydd

Summer Allwood - Carchardai a'r Gwasanaeth Prawf

Ceir ail sesiwn am 7.00pm nos Fawrth 28 Tachwedd: Gradd yn y Gyfraith ond ddim yn Gyfreithwyr.