11am, 27 Tachwedd 2023, ar-lein
Cyflwyniad a thrafodaeth i fyfyrwyr MA / MPhil / PhD Ysgrifennu Creadigol dan arweiniad Sian Llywelyn.
Mae Sian Llywelyn yn fyfyrwraig PhD Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor, ac hefyd wedi cyhoeddi nofelau drwy wasg. Yn ystod y sesiwn hwn bydd Sian yn sôn am ei phrofiad o gyhoeddi nofelau drwy wasg ac o weithio tuag at PhD Ysgrifennu Creadigol, ac yn rhannu cyngor. Bydd hefyd gyfle i chi drafod y llwyddiannau, yr heriau, a’r broses o ddilyn cwrs uwchraddedig mewn Ysgrifennu Creadigol.
Mi fydd Bethan Dobson, sydd newydd gwblhau PhD Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Bangor hefyd yn ymuno i rannu ei phrofiadau.
Cofrestrwch drwy'r ddolen isod.