Skip to main content Skip to footer
13 Mai 2024

Adnodd Busnes Cymraeg newydd i ysbrydoli entrepreneuriaid Cymreig y dyfodol.

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi adnodd newydd ar gyfer dysgwyr mewn colegau addysg bellach a phrentisiaid sydd yn astudio neu â diddordeb ym maes Busnes.

Cafodd yr adnodd ei gomisiynu mewn ymateb i’r galw gan staff a dysgwyr mewn colegau addysg bellach am adnodd cyfrwng Cymraeg yn y maes Busnes i gefnogi dysgwyr gyda’u hastudiaethau.

Dyma’r adnodd cyntaf o’i fath yn yr iaith Gymraeg yn y maes Busnes sy’n cynnwys wyth uned hunan-astudio ac enghreifftiau amrywiol o fusnesau Cymraeg, o’r rhai bach i’r busnesau mawr rhyngwladol sy’n cyfrannu i’w cymunedau lleol.

Trwy ddarllen, gwylio a gwrando ar weithwyr o bob lefel mewn cwmnïau bydd gan y dysgwyr gyfle i glywed am eu profiadau, a dysgu sut mae’r Gymraeg yn rhan annatod o’u llwyddiant.

Croesawyd yr adnodd yn frwd gan fyfyrwyr a darlithwyr Busnes yng Ngholeg Sir Benfro:

“Mae’r adnodd hwn yn wych a bydd yn sicr yn cael ei groesawu gan diwtoriaid a myfyrwyr busnes. Mae’r cynnwys yn addas iawn i anghenion y dysgwyr. Mae pob modiwl yn cynnwys yr agweddau hanfodol i gyd ac maen nhw oll yn gynhwysfawr iawn. Mae’r tasgau rhyngweithiol yn dda iawn.  Mae defnydd da iawn o enghreifftiau busnes a’r rhan fwyaf ohonyn nhw’n fusnesau Cymreig.”

Mae’r adnodd yn cael ei lansio mewn partneriaeth gyda Chomisiynydd y Gymraeg yn ystod ei wythnos, ‘Cynnig Cymraeg’, sy’n cydnabod ac annog ymrwymiad busnesau ac elusennau yng Nghymru i’r Gymraeg, a’u parodrwydd i’w defnyddio.

Mae Angharad Gwynn, Perchennog cwmni Adra yn un o’r astudiaethau achos sydd yn ymddangos yn yr adnodd. Mae ei chwmni sydd wedi ei leoli ym Mharc Glynllifon, Caernarfon, ac ar y we, yn gwerthu nwyddau ac anrhegion Cymreig i’r cartref. Meddai:

“Mae’r ffaith ein bod yn defnyddio dylunwyr o Gymru, ac amlygu’r Gymraeg yn ein nwyddau, yn ein gwneud yn unigryw ac apelgar i’n cwsmeriaid o bedwar ban byd. Rydym yn gallu cynnig gwasanaeth cwbl Gymraeg sydd yn ganolbwynt i’n llwyddiant.”

Cafodd yr adnodd ei ddatblygu gan gwmni digidol amlgyfrwng, Atebol, ar ran y Coleg Cymraeg, ac mae ar gael am ddim ar 'Borth Adnoddau’r Coleg Cymraeg.'

Ewch ar X, Facebook ac Insta’r Coleg yn ystod Wythnos #CynnigCymraeg rhwng 13-17 i glywed mwy am yr adnoddau busnes, ac i ddysgu am bwysigrwydd y Gymraeg ym myd busnes.