Ar Faes yr Eisteddfod yr wythnos hon, lansiwyd casgliad o adnoddau e-ddysgu chwaraeon newydd ar gyfer dysgwyr addysg bellach Lefel 2 gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.
Mae’r adnodd wedi ei ddatblygu yn dilyn ymchwil gan y Coleg Cymraeg nol yn 2022 yn edrych ar anghenion adnoddau yn y maes chwaraeon. Dangosodd yr ymchwil fod galw am adnodd dwyieithog i ddysgwyr Lefel 2. Mae chwaraeon yn ogystal wedi ei adnabod fel un o’r meysydd blaenoriaeth yn Strategaeth Addysg Bellach y Coleg Cymraeg.
Roedd Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn eu hymchwil diweddar i’r ‘Defnydd o’r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc’ yn nodi fod gan chwaraeon ‘botensial neilltuol fel cerbyd ar gyfer cynyddu’r defnydd o’r Gymraeg ymysg plant a phobl ifanc’. Dangoswyd yn yr un ymchwil fod plant a phobl ifanc yn fwy tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg gyda hyfforddwyr a ffrindiau mewn gweithgareddau chwaraeon.
Mae’r adnodd, sef y Cit Chwaraeon, yn cynnwys gwybodaeth ymarferol am sut i gynllunio a rhedeg sesiwn, y gwahanol swyddi a chyfrifoldebau yn y byd chwaraeon, cyngor defnyddiol a chip ar fywyd bob dydd amryw o bobl broffesiynol yn y maes.
Un o’r hyfforddwyr sydd wedi cyfrannu at yr adnodd ydy Emyr Phillips, Rheolwr yr Academi a Hyfforddwr Sgrym y Scarlets. Yn y clip fideo, mae Emyr yn trafod elfennau megis y sgiliau sydd eu hangen i wneud hyfforddwr da, sut i gyfathrebu gydag athletwyr a sut i reoli amser.
Dywedodd Emyr, “Rwy’n falch iawn o fod wedi cyfrannu at yr adnodd hwn, gan helpu i ddatblygu arweinwyr chwaraeon y dyfodol. Mae hefyd yn wych fod yr adnodd ar gael yn Gymraeg a Saesneg a bod pobl ifanc sy’n dilyn cyrsiau mewn colegau addysg bellach gydag adnodd newydd i gyd-fynd gyda’u dysgu.
“Dw i wedi defnyddio llawer o Gymraeg ar y cae chwarae, fel chwaraewr a hyfforddwr, ac mae’n bwysig ein bod ni’n dangos i bobl ifanc pa mor ddefnyddiol ydy siarad y ddwy iaith os yn ystyried gweithio yn y diwydiant chwaraeon.”
Ychwanegodd Lisa O'Connor, Uwch Reolwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau o’r Coleg Cymraeg, “Mae’r adnodd hwn wedi ei greu gan gwmni Atebol, dan arweiniad y cyn-ddarlithydd chwaraeon Simon Evans. Roedd yn bwysig i'r awdur ac i ninnau yn y Coleg bod yr adnodd yn cyfleu'r cynnwys mewn ffordd rhyngweithiol a fyddai'n ysbrydoli'r myfyrwyr felly canolbwyntiwyd ar gyflwyno profiadau pobl sy'n gweithio yn y diwydiant chwaraeon.
“Ceir fideos gan ddarlithwyr chwaraeon, hyfforddwyr, prentisiaid a seren yn y byd bêl-droed fel rhan o'r adnodd. Gobeithiwn bydd yr adnodd o gymorth i fyfyrwyr lefel 2 o fis Medi 2025.”
“Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yn cael effaith ehangach ar ddefnydd o’r Gymraeg,, gan ein bod bellach yn gwybod y rhan bwysig mae chwaraeon yn ei chwarae o ran siarad Cymraeg tu allan i’r dosbarth.”
Mae’r adnodd hefyd yn cynnwys clips fideo gan bobl megis Lili Jones, sy’n chwarae pêl-droed i dîm merched Wrecsam, y para-athletwr Tomi Roberts-Jones a’r hyfforddwyr personol Karen Saunders. Mae ar gael ym Mhorth Adnoddau y Coleg Cymraeg ac fe’i ariannwyd gan Lywodraeth Cymru.