Skip to main content Skip to footer
31 Ionawr 2023

Agor enwebiadau gwobrau'r Coleg Cymraeg

ADD ALT HERE

Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau 2023 y Coleg Cymraeg Cenedlaethol! Mae’r gwobrau blynyddol yn dathlu llwyddiannau y myfyrwyr, dysgwyr, prentisiaid a’r darlithwyr mwyaf disglair a’r rheiny sydd wedi cyfrannu’n sylweddol tuag at addysg ôl-orfodol cyfrwng Cymraeg a dwyieithog dros y flwyddyn.

Mae’r gwobrau wedi eu sefydlu mewn gwahanol feysydd ac mae cyfle gan fyfyrwyr, darlithwyr, a chyflogwyr (yn y maes prentisiaethau) enwebu unigolion ar gyfer yr amrywiaeth o gategorïau. 

I weld y rhestr lawn o gategorïau, y canllawiau, ac i enwebu, cliciwch yma

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn noson wobrau yn nhymor yr haf.

Cliciwch yma i weld fideo uchafbwyntiau noson wobrwyo’r Coleg Cymraeg llynedd.

I glywed am gyn-enillwyr y gwobrau, cliciwch yma

LANSIO GWOBRAU NEWYDD  

Yn ogystal â’r categorïau arferol, am y tro cyntaf eleni, mae cyfle i enwebu ar gyfer gwobrau newydd sbon ar gyfer unigolion o’r sector addysg bellach a’r sector brentisiaethau. Un ohonynt ydy Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce, cyn-Gadeirydd y Coleg Cymraeg a fu farw yn sydyn yn ystod haf 2021.

Cyflwynir y wobr hon i brentis Cymraeg (neu ddysgwr) sydd wedi dangos dawn arbennig. Dylai cyflogwyr neu ddarparwyr prentisiaethau enwebu prentis talentog sydd wedi serennu yn y gweithle ac sydd â dyfodol disglair o’u blaen.  Gall hyn gynnwys cyfraniad mae'r prentis wedi gwneud yn y gweithle, cyflawniadau mewn gwaith hyd yn hyn, neu gynnydd mae'r prentis wedi gwneud yn eu gyrfa hyd yma. Mae pob prentis sy’n siarad Cymraeg, yn rhugl neu yn ddysgwr yn gymwys i gael ei enwebu ar gyfer y wobr hon.

Yn ogystal, cyflwynir tair gwobr ychwanegol newydd yn y sector Addysg Bellach a Phrentisiaethau eleni. Mae Gwobr Addysgwr Arloesol yn cydnabod cyfraniad tiwtor, ymarferwr neu aseswr sy’n darparu addysg Gymraeg mewn ffyrdd arloesol. Mae’r categori yma yn agored i unrhyw un enwebu. 

Dyfernir Gwobr am Gyfraniad Arbennig i aelod o dîm rheoli mewn coleg addysg bellach neu o fewn darparwr prentisiaethau am ddylanwadu ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg o fewn eu sefydliad, ac mae’r wobr hon yn agored i bawb beth bynnag eu sgiliau Cymraeg.

Mae Gwobr am Gyfoethogi Profiad y Dysgwr neu Brentis yn cydnabod cyfraniad aelod o staff yn y sector i gynyddu defnydd o’r Gymraeg ymysg dysgwyr neu brentisiaid mewn sefyllfaoedd llai ffurfiol.

Cliciwch yma am y wybodaeth lawn ac i enwebu

Mae’r cyfnod enwebiadau yn cau ar y 10 Mawrth, 2023.