Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi ariannu prosiect newydd, ‘Testunau’r Enfys’, a fydd yn ysgogi ymchwil newydd i gyfoethogi'r canon llenyddol LHDTC+ Cymraeg.
Ar 20 Medi yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru bydd academyddion ac ymarferwyr creadigol a chanddynt ddiddordeb yn y maes LHDTC+ yn archwilio llenyddiaeth hanesyddol a chyfoes y Gymraeg ac yn rhoi sylw i weithiau anghofiedig a gweithiau sydd heb gael sylw dyledus yn y gorffennol.
Bydd darganfyddiadau newydd y gweithdy yn cael llwyfan yn y gynhadledd gyntaf o’i bath, ‘Testunau’r Enfys’, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru ym mis Gorffennaf 2025.
Mae’r prosiect arloesol hwn wedi ei drefnu ar y cyd gan dîm o staff Prifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd.
Meddai Dr Cathryn A. Charnell-White, un o drefnwyr y prosiect, sy’n arbenigo ar rywedd a llenyddiaeth menywod hanesyddol a chyfoes ym Mhrifysgol Aberystwyth,
“Rydym yn gyffrous i lansio'r prosiect hwn gan fod edrych o'r newydd ar ein llenyddiaeth drwy lens LHDTC+ yn cynnig llawer o botensial i dorri tir newydd ac i feithrin amrywiaeth a chynwysoldeb yn y maes.
“Un o'm hoff enghreifftiau yw cerdd am gyfeillgarwch rhwng dwy ferch o’r unfed ganrif ar bymtheg, sy'n cynnig dehongliadau newydd a diddorol o'i darllen hi drwy lens LHDTC+.”
Un o amcanion eraill y prosiect yw creu cymuned o academyddion ac ymarferwyr creadigol ym maes llenyddiaeth LHDTC+ y Gymraeg er mwyn adeiladu arbenigedd a thyfu'r canon llenyddol.
Meddai Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg:
“Mae ariannu a chefnogi’r prosiect yma yn bwysig ac yn cyd-fynd gyda strategaeth cydraddoldeb ac amrywiaeth y Coleg i sicrhau bod addysg uwch cyfrwng Cymraeg yn gynhwysol ac yn adlewyrchu profiadau’r gymuned gyfan. Mae’r prosiect yma yn hynod o gyffrous gan y bydd yn creu ymchwil a chymuned newydd o ymchwilwyr yn y maes llenyddol LHDTC+ Cymraeg a fydd y cyfoethogi addysg myfyrwyr yn y pendraw.”
Cymryd Rhan
Mae tîm prosiect ‘Testunau’r Enfys’ yn dymuno datblygu’r maes yn gyffredinol drwy feithrin ymchwilwyr newydd a phrofiadol, a thrwy archwilio ystod o archifau. Mae'r tîm prosiect, felly, yn croesawu gohebiaeth gan ymarferwyr creadigol ac academyddion sy'n ymddiddori yn y pwnc ac yn y gynhadledd a gynhelir 5 Gorffennaf 2025
Gellir mynd i'r dudalen hon am wybodaeth bellach.