Skip to main content Skip to footer
6 Gorffennaf 2022

Aled Eirug i gadeirio bwrdd cyfarwyddwyr y coleg

ADD ALT HERE

Mae Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cyhoeddi mai Dr Aled Eirug fydd Cadeirydd newydd y Bwrdd o 1 Medi 2022.

Bydd yn olynu’r Cadeirydd dros dro presennol, Llinos Roberts, a gymrodd yr awenau yn dilyn marwolaeth sydyn cyn-Gadeirydd y Coleg, Gareth Pierce, ym mis Gorffennaf 2021.  

Mae Aled yn wyneb cyfarwydd ym maes addysg uwch, gwleidyddiaeth a darlledu ac mae ganddo brofiad helaeth yn cadeirio sefydliadau yn y sector wirfoddol a’r sector gyhoeddus.  

Dechreuoedd ei yrfa fel newyddiadurwr cyn cael ei ddyrchafu yn Bennaeth Newyddion a Materion Cyfoes BBC Cymru. Treuliodd bum mlynedd yn Ymgynghorydd Arbenigol i Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol ac yna cyfnod yn cynghori’r Gweinidog Addysg ar y pryd. Yn y blynyddoedd diweddar mae Aled wedi bod yn gweithio ym Mhrifysgol Abertawe fel Uwch Ddarlithydd ac fel Ymgynghorydd i Is-Ganghellor y Brifysgol tan 2017. 

Mae Aled wedi dal nifer o benodiadau cyhoeddus gan gynnwys bod yn aelod o Bwyllgor Archwilio a Risg Senedd Cymru, ac aelod o Bwyllgor Ymgynghorol Cymru Ofcom a Bwrdd Cynnwys Ofcom. Bu hefyd yn Gadeirydd ar y Cyngor Ffoaduriaid yng Nghymru, yn Gadeirydd y Cyngor Prydeinig yng Nghymru ac yn aelod o Fwrdd S4C. 

Graddiodd mewn Hanes a Hanes Cymru o Brifysgol Aberystwyth cyn dilyn cwrs Meistr yn y London School of Economics. Yn fwy diweddar cwblhaoedd ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd ar Hanes y Gwrthwynebiad Cydwybodol i’r Rhyfel Mawr. Mae Aled bellach yn Gymrawd Ymchwil Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Caerdydd.  

Meddai Aled: “Rwy’n falch iawn o gael fy mhenodi yn Gadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Mae’n gyfnod cyffrous i ymuno â’r sefydliad wrth iddo adlewyrchu ar a dathlu llwyddiannau’r degawd cyntaf.  

“Mae cyfraniad y Coleg at greu mwy o siaradwyr Cymraeg hyderus a chynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle ar draws ein sectorau economaidd yn allweddol i lwyddiant strategaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru. Edrychaf ymlaen at gydweithio gyda’r cyfarwyddwyr, y staff a’r partneriaid er mwyn adeiladu ar lwyddiannau’r degawd cyntaf ac i gefnogi’r Coleg i symud ymlaen yn hyderus i’r degawd nesaf.” 

Meddai Rhian Huws Williams, Cadeirydd Pwyllgor Penodiadau a Safonau Llywodraethiant y Coleg:  “Mae’n bleser penodi Aled fel Cadeirydd newydd y Bwrdd Cyfarwyddwyr. Mae ganddo brofiad eang a helaeth o nifer o wahanol feysydd perthnasol ac mae’n arweinydd strategol a phrofiadol. Ar ran y Pwyllgor Penodiadau hoffwn ddymuo’n dda iddo dros y cyfnod nesaf ac edrychwn ymlaen at y cydweithio.”  

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg: “Hoffwn groesawu Aled fel cadeirydd newydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg. Bydd y profiad helaeth sydd ganddo o’r meysydd addysg uwch, darlledu a gwleidyddiaeth yn gaffaeliad i’r Coleg wrth i ni weithredu ein cynlluniau.  Mae ymrwymiad Aled i hybu buddiannau dysgwyr, prentisiaid a myfyrwyr yn amlwg a bydd hyn yn allweddol wrth i ni barhau i ddatblygu darpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-orfodol a denu mwy o ddysgwyr i elwa o’r cyfleoedd hynny. 

“Diolchwn i Llinos Roberts am ei gwaith fel Cadeirydd dros dro ac am gymryd yr awennau yn dilyn colli ein cyn-Gadeirydd, Gareth Pierce, mor sydyn y llynedd. Yn ystod blwyddyn heriol, roedd cyngor, cefnogaeth ac arweiniad Llinos yn allweddol, a hynny yn ystod cyfnod anodd iddi hi yn bersonol.”