Ar ddydd Gwener 23 Ionawr, yng Nghanolfan Arad Goch, Aberystwyth, bydd cynhadledd gyntaf o’i fath yn y Gymraeg yn cael ei chynnal i drafod y berthynas rhwng y gwyddorau a'r celfyddydau.
Bydd ‘Chwilen yn y Glust’, sy’n chwarae ar idiom gyfarwydd ‘chwilen yn fy mhen’, yn ddigwyddiad a fydd yn dod â academyddion o’r ddau faes ynghyd i drafod sut mae’r celfyddydau yn creu delweddau a darluniau byw o wyddoniaeth gyfoes, a sut, yn hanesyddol hyd heddiw, mae gwyddoniaeth yn cael ei bortreadu drwy lenyddiaeth a chyfryngau gweledol, megis genre ffuglen wyddonol.
Mae’r gynhadledd wedi ei ariannu gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac wedi ei drefnu gan Dr Gethin Rhys Thomas, darlithydd yn Adran Biowyddorau, Prifysgol Abertawe; a Dr Miriam Elin Jones, darlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Abertawe. Meddai Miriam,
“Mae fy ngwaith llenyddol ym maes ffuglen wyddonol yn creu darlun byw i ysgogi darllenwyr i feddwl am ddatblygiadau gwyddonol a technolegol, felly cam naturiol oedd ystyried posibiliadau tu hwnt i’r genre, a chydweithio gyda Gethin i ystyried perthynas ehangach llenyddiaeth gyda’r gwyddorau.”
Yn ôl Gethin, sy’n arbenigo mewn parasitiaid, bydd y gynhadledd yn gyfle i ‘bontio’r ddau fyd sydd fel arfer ar wahân.’ Meddai Gethin,
“Er fy mod i’n trafod gwyddoniaeth ffuglen yn aml gyda’m cyd-wyddonwyr dros baned, prin yw’r cyfleoedd i nodi yn ffurfiol ei ddylanwad ar ein gwaith academaidd – sy'n syndod wrth ystyried dylanwad ffuglen ar faes parasitoleg.
“Mae’r gynhadledd hon yn gyfle unigryw i archwilio’r cysylltiadau hynny’n agored; i ystyried sut y gall dychymyg llenyddol sbarduno cwestiynau gwyddonol newydd, ac i bontio’r ddau fyd sydd fel arfer yn cael eu cadw ar wahân.
Bydd rhai o academyddion y gynhadledd yn cynnwys, Dr Aneirin Karadog, Dr Hywel Griffiths, Dr Iwan Morus, Dr Gethin Matthews, a Dr Rhian Meara; a bydd y pynciau trafod yn amrywio o Farddoniaeth am Beiriannau Lladd yn y Rhyfel Mawr, Blwyddyn 2000 y Fictoriaid, i sombis!
Yn dilyn y gynhadledd bydd podlediad ‘Chwilen yn y Glust’ yn cael ei lansio er mwyn parhau’r drafodaeth. Ychwanegodd Miriam,
“Mae’n argyhoeddi i fod yn ddiwrnod arbennig o drafodaethau amrywiol bywiog ac adeiladol, a gobeithio bydd y podlediad yn ysgogi eraill i feddwl yn ehangach am y cysylltiad rhwng gwyddoniaeth a’r celfyddydau.
Ewch i wefan y Coleg i gofrestru eich presenoldeb. Mae’r gynhadledd wedi ei anelu at fyfyrwyr ac academyddion yn y maes celfyddydau, llenyddol, a gwyddonol, ac mae croeso cynnes i bawb sydd â diddordeb yn y maes.
Mae’r rhaglen lawn o sgyrsiau’r gynhadledd i’w darllen ar wefan y Coleg.