Skip to main content Skip to footer
17 Mawrth 2021

Coleg Cymraeg yn croesawu cyllideb ychwanegol

ADD ALT HERE

Mae Cadeirydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi croesawu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, heddiw (dydd Mercher), y bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £800,000 ychwanegol drwy’r Coleg yn ystod blwyddyn ariannol 2021-22 er mwyn gweithredu elfennau o’r Cynllun Gweithredu Addysg Bellach a Phrentisiaethau Cymraeg a lansiwyd gan y Gweinidog.

 

Lansiwyd y Cynllun Gweithredu yn 2019 fel rhan o bolisi Llywodraeth Cymru i greu miliwn o bobl sy’n siarad a defnyddio’r Gymraeg erbyn 2050 a rhoddwyd y cyfrifoldeb dros weithredu’r strategaeth i’r Coleg Cymraeg.

Ers lansio’r Cynllun mae’r Coleg wedi gweithio’n effeithiol gyda’i bartneriaid ac wedi gosod seiliau cadarn er mwyn gwireddu ymrwymiad y Llywodraeth i gynyddu’r ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn y sector ond ar hyn o bryd canran isel o staff o fewn y Colegau addysg bellach ac yn y maes prentisiaethau sy’n medru’r Gymraeg, ac mae hyd yn oed llai yn gallu dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, nifer cyfyngedig iawn o gyrsiau sydd ar gael i ddysgwyr yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog.

Bydd y gyllideb ychwanegol o £800,000 gan y Llywodraeth yn galluogi’r Coleg i weithio gyda’r sector ôl-16 i ddechrau cynyddu’r capasiti dwyieithog, gan gynnwys yn y meysydd blaenoriaeth sef iechyd a gofal, gofal plant a gwasanaethau cyhoeddus.

Wrth groesawu’r cyhoeddiad dywedodd Gareth Pierce, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol: “Mae sicrhau bod llwybrau dilyniant ieithyddol ar gael i bobl ifanc wrth iddynt adael yr ysgol a pharatoi at y byd gwaith yn holl bwysig wrth i ni gynllunio tuag at gyrraedd y nod o greu miliwn o bobl sy’n siarad ac yn defnyddio’r Gymraeg. Bydd y gyllideb ychwanegol a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg heddiw yn gam tuag at sicrhau cynnydd yn y ddarpariaeth Gymraeg a dwyieithog yn ein colegau addysg bellach er mwyn cefnogi mwy o bobl i deimlo’n hyderus i ddefnyddio’r Gymraeg pan fyddant yn ymuno a’r byd gwaith.

“Hoffwn gymryd y cyfle i ddiolch i Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, am ei gweledigaeth a’i chefnogaeth tuag at yr agenda Gymraeg a dwyieithog yn y sector ôl-16 yn ystod ei thymor fel Gweinidog a dymunwn bob llwyddiant iddi ar ôl mis Mai.”

Dywedodd Kirsty Williams, Gweinidog Addysg Llywodraeth Cymru: "Rwy'n benderfynol ein bod yn cynyddu'r cyfleoedd i fwy o bobl ddysgu a gweithio'n ddwyieithog ar bob lefel o addysg, o'r plant ieuengaf i oedolion. Mae wedi bod yn flaenoriaeth i mi gynyddu argaeledd addysg bellach cyfrwng Cymraeg a dwyieithog yn enwedig, felly rwy'n falch y bydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn parhau â'i waith da i alluogi mwy o fyfyrwyr, hyfforddeion a staff i ddefnyddio'r Gymraeg."