Yn dilyn ymateb cadarnhaol dros ben i lansio Cronfa Llŷr yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol mae’r Coleg Cymraeg yn diolch am y cyfraniadau hael sydd wedi dod i law ac yn cynnig cyfle arall i bobl sydd heb gyfrannu eto i wneud.
Lansiwyd y gronfa yn mis Awst er cof am Dr Llŷr Roberts un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg fu farw’n sydyn ym mis Mehefin yn 45 oed.
Ar ddydd Mawrth 26 Medi, bydd Dr Dafydd Trystan, Cofrestrydd y Coleg Cymraeg oedd wedi cydweithio gyda Llŷr am dros ddegawd ac yn gyfaill iddo, yn ymddangos ar raglen Prynhawn Da, S4C, i sôn am y gronfa.
Sefydlwyd y gronfa gan y Coleg Cymraeg mewn cydweithrediad gyda Phrifysgol Bangor a theulu’r diweddar Dr Llŷr Roberts er cof amdano. Bydd yr arian a godir yn mynd tuag at gefnogi myfyrwyr addysg uwch gyda’u hastudiaethau cyfrwng Cymraeg.
Roedd Llŷr yn un o’r darlithwyr cyntaf i gael ei benodi i swydd o dan nawdd y Coleg Cymraeg, ac aeth ymlaen i wneud cyfraniad amlweddog i addysg uwch cyfrwng Cymraeg, ac i genhadaeth ehangach y Coleg dros y blynyddoedd, a hynny fel addysgwr, awdur a chyfathrebwr.
Fel darlithydd cyfrwng Cymraeg yn y maes Busnes, derbyniodd Llŷr ganmoliaeth genedlaethol am ei waith a llynedd fe enillodd wobr ‘Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol’ gan y Coleg am ddatblygu’r e-lyfr cyntaf yn y maes marchnata yn yr iaith Gymraeg.
Yn ôl Dr Dafydd Trystan,
"Roedd Llŷr yn ysbrydoliaeth i’w gydweithwyr ac i’w fyfyrwyr ym Mhrifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd a Phrifysgol De Cymru, a bydd bwlch enfawr ar ei ôl.
"O fewn cymuned y Coleg roedd y newyddion am ei farwolaeth sydyn yn anodd iawn i'w ddirnad; mae nifer ohonom wedi colli ffrind yn ogystal â chydweithiwr ond mae sefydlu’r gronfa hon yn rhoi cyfle i ni sianelu’r golled honno i rywbeth cadarnhaol fydd yn cefnogi myfyrwyr – dwi’n ffyddiog y byddai Llŷr wedi bod yn falch o hynny.
“Ryn ni’n ddyledus iawn i deulu Llŷr am eu cefnogaeth tuag at y Coleg ar adeg mor anodd a hefyd i Brifysgol Bangor a’r Eisteddfod Genedlaethol sydd hefyd wedi colli ffrind a chydweithiwr annwyl iawn.”
Meddai chwaer Llŷr, Lowri Gwyn:
“Fel teulu dymunwn ddiolch i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am sefydlu cronfa i gofio Llŷr.
“Roedd Llŷr yn fab, brawd ac yncl annwyl ac arbennig iawn. Mae’n gysur gwybod bod ei gydweithwyr, ei fyfyrwyr a’i ffrindiau hefyd yn meddwl y byd ohono.”
Meddai Dr Llion Jones, Cyfarwyddwr Canolfan Bedwyr, Prifysgol Bangor:
“Mewn amser byr gwnaeth Llŷr argraff fawr ym Mhrifysgol Bangor. Roedd ei ofal dros ei fyfyrwyr a’i sêl dros addysg Gymraeg yn amlwg i bawb. Mae’n briodol iawn felly bod y gronfa hon yn cefnogi’r hyn oedd mor agos at ei galon.”
Gellir trosglwyddo cyfraniadau i gyfrif banc y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
Cod didoli: 20-18-54
Rhif cyfrif: 43768945
Nodwch “Cronfa Llŷr” fel cyfeirnod wrth wneud cyfraniad.
Byddwn yn ddiolchgar os medrwch ddanfon e-bost at Emyr James, Prif Swyddog Cyllid y Coleg (e.james@colegcymraeg.ac.uk) i dynnu ein sylw at eich cyfraniad.
Dylid anfon sieciau yn daladwy i’r ‘Coleg Cymraeg Cenedlaethol’ drwy law Emyr James at Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Y Llwyfan, Heol y Coleg, Caerfyrddin, SA31 3EQ.