Mae'r cyfnodolyn academaidd Cymraeg Gwerddon yn chwilio am Is-olygydd dan hyfforddiant i ymuno â'i dîm golygyddol.
Bydd yr Is-olygydd dan hyfforddiant yn cysgodi ac yn cynorthwyo’r Golygydd a’r Is-olygydd yn eu gwaith ac yn gweithio fel rhan o dîm y Golygyddion.
Mae’r dyletswyddau yn debygol o gynnwys:
- Cynorthwyo’r Tîm Golygyddol gyda phenderfyniadau yn ymwneud â datblygiad a phrosesau’r cyfnodolyn, gan gynnig barn yn ôl y gofyn;
- Cefnogi’r Golygydd a’r Is-olygydd mewn digwyddiadau hyrwyddo achlysurol megis yr Eisteddfod Genedlaethol;
- Cynorthwyo gyda gwaith golygu erthyglau Gwerddon a Gwerddon Fach gan gynnwys gwaith safoni erthyglau i gydymffurfio gyda’n canllawiau golygyddol;
- Bod yn bwynt cyswllt i Gwerddon Fach gyda Golwg360;
- Cefnogi’r broses o gasglu erthyglau i’r cyfnodolyn;
- Cefnogi’r Golygydd i benderfynu a yw erthyglau’n gymwys i gael eu harfarnu;
- Tasgau cyffredinol eraill yn ôl yr angen.
Caiff yr Is-olygydd dan hyfforddiant gyfle i fod yn rhan o’r Bwrdd Prosiect a’r Bwrdd Golygyddol a chael mewnwelediad i brosesau golygyddol. Caiff yr unigolyn llwyddiannus hefyd brofiad gwerthfawr o gysgodi golygyddion profiadol.
Rôl ddi-dâl yw hon, ond telir treuliau rhesymol (e.e. costau teithio).
Gweler ddisgrifiad llawn o'r swydd drwy'r ddolen isod.
Am sgwrs ynglŷn â’r rôl, dylid cysylltu â’r Athro Anwen Jones (aej@aber.ac.uk) neu Dr Hywel Griffiths (hmg@aber.ac.uk) gyda chopi at gwybodaeth@gwerddon.cymru.
Gwahoddir unigolion sydd â diddordeb yn y rôl i gwblhau'r ffurflen isod erbyn 5pm, 4 Mawrth 2026.