Skip to main content Skip to footer
27 Mai 2024

Cyhoeddi arlwy’r Coleg yn Eisteddfod yr Urdd Sir Maldwyn 2024.

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg yn falch i noddi Gŵyl Triban unwaith eto eleni, yn ogystal â chynnig wythnos lawn o ddigwyddiadau a gweithgareddau i bobl ifanc ar ei stondin ar faes Eisteddfod yr Urdd Maldwyn rhwng 27 Mai a 1 Mehefin (stondin 89-91).

 

Prif ddigwyddiadau ar stondin y Coleg

Ymhlith y digwyddiadau a gynhelir ar stondin y Coleg eleni bydd sgwrs banel i lansio adnodd newydd ‘Sbïa ar Hwn’ sy’n datgelu cyfrinachau’r cyfryngau cymdeithasol. Mae’r adnodd, a grewyd gan Jomec Cymraeg, Ysgol Newyddiaduraeth Prifysgol Caerdydd, ac a ariannwyd trwy Grant Bach gan y Coleg, yn cynnwys gwybodaeth gan arbenigwyr ar sut i greu cynnwys effeithiol a hoelio sylw ar y cyfryngau cymdeithasol.

 Meddai Jess Clayton, newyddiadurwraig ITV ac S4C sydd wedi gweithio ar raglenni megis, ‘Hansh Dim Sbin’, ac sydd wedi cyfrannu tuag at yr adnodd,

“Y frawddeg gyntaf yw’r frawddeg fwyaf pwysig wrth greu cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae’n bwysig i fod yn syml, yn gywir ond hefyd bod pobl yn eich deall chi yn syth.”

Ychwanegodd Alun Jones, o gwmni marchnata digidol, Libera, sydd hefyd yn ymddangos yn yr adnodd, 

“Mae siaradwyr Cymraeg eisiau gweld cynnwys da, nid cynnwys Cymraeg. Os mae’r cynnwys yn dda, a digwydd bod yn Gymraeg, byddai dim ots gyda nhw.”

Bydd y sgwrs banel o dan gadeiryddiaeth Siân Morgan Lloyd o Jomec ac S4C, a bydd yn cael ei gynnal am 10:00, dydd Iau, 30 Mai ym mhabell y Coleg. Mae’r adnodd ar gael i'w lawrlwytho am ddim ar Borth Adnoddau’r Coleg.

Cynhelir sgwrs banel arall am 12:30 dydd Gwener 31 Mai, ‘Pam Cymraeg?’ gyda phrif leisydd y band Bwncath, Elidyr Glyn, cyn-lywydd yr Urdd, Mared Edwards, a’r myfyriwr yn y Gymraeg, Catrin Alaw Jones, ynglyn â byw, astudio, a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg. 

Yn dilyn llwyddiant taith diweddar  ar y cyd rhwng y Coleg a Gŵyl Triban o gwmpas ysgolion Maldwyn yn hyrwyddo’r Ŵyl a manteision astudio Lefel A a dilyn gradd yn y Gymraeg, byddant yn dod â’r sgwrs a’r gerddoriaeth yn fyw i’r Eisteddfod.  Bydd cyfle wedi’r drafodaeth i fwynhau set acwstig gan Elidyr cyn i Bwncath berfformio ar y nos Wener yng Ngŵyl Triban.

Bydd amrywiaeth o weithgareddau, gweithdau, a digwyddiadau eraill trwy gydol yr wythnos i apelio at bawb o bob oedran, a bydd croeso cynnes i bobl i alw heibio i stondin y Coleg.

Profiadau “anhygoel” i lysgenhadon y Coleg yng Ngŵyl Triban

Bydd llysgenhadon y Coleg Cymraeg yn cael penwythnos o brofiadau bythgofiadwy unwaith eto wrth i'r Coleg noddi Gŵyl Triban yn dilyn llwyddiant llynedd.

Mae’r ŵyl, sy’n cael ei chynnal ar ddydd Gwener 31 Mai a dydd Sadwrn 1 Mehefin ar faes yr Eisteddfod, yn rhoi llwyfan i’r gorau o gerddoriaeth a diwylliant cyfoes Cymru.

Bydd criw o Lysgenhadon Ysgol a Phrifysgol y Coleg yn gyfrifol am reoli cyfrifon Instagram y Coleg a’r Urdd,  byddant yn cyfweld â rhai o fandiau mwyaf Cymru tu cefn i'r llwyfan, yn ogystal â’u cyflwyno ar y llwyfan.

Un o’r Llysgenhadon Prifysgol fydd yn cymryd rhan fydd Efa Maher, sy’n astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Caerdydd. Ymgeisiodd Efa i fod yn Lysgennad Prifysgol eleni ar ôl cael profiadau “bythgofiadwy” llynedd fel Llysgennad Ysgol. Meddai:

“Fy hoff brofiad o’r ŵyl llynedd oedd cyflwyno Tara Bandito, Gwylim ac yn enwedig Dafydd Iwan i lwyfan Triban i gau’r ŵyl. Datblygais fy sgiliau cyflwyno, cyfweld a hyder yn gyffredinol trwy gyfathrebu gydag amryw o bobl. O drafod syniadau gyda fy nghyd-lysgenhadon, gweithio ar y cyd gyda’r Urdd a’r Coleg Cymraeg ac wrth gwrs siarad cyhoeddus. Roedd hi’n brofiad bythgofiadwy a dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r tîm eto eleni.”

Meddai Elin Williams, Rheolwr Marchnata'r Coleg,

“Rydym yn edrych ymlaen at fod yng nghanol y bwrlwm ar y maes unwaith eto eleni yn cynnal digwyddiadau ac yn hyrwyddo'r cyfleoedd a’r manteision sydd i bobl ifanc wrth barhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl gadael yr ysgol. Mae hi hefyd yn bleser noddi Gŵyl Triban eto eleni fydd yn rhoi cyfle gwych i'n llysgenhadon gael profiadau gwerthfawr gan gynnwys creu cynnwys i ddilynwyr cyfryngau cymdeithasol y Coleg Cymraeg a’r Urdd.”

Gellir dilyn y Coleg ar y maes drwy gydol yr wythnos drwy ddilyn cyfrifon  cymdeithasol @ColegCymraeg.