Skip to main content Skip to footer
6 Awst 2025

Cyhoeddi enillwyr Bwrsariaeth Dr Llŷr Roberts i gefnogi myfyrwyr i deithio a dysgu

ADD ALT HERE

Heddiw, dydd Mercher 6 Awst, ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd enwau’r myfyrwyr sydd wedi ennill bwrsariaeth y Coleg er cof am y diweddar Dr Llŷr Roberts, fu farw’n sydyn ym Mehefin 2023 yn 45 mlwydd oed.

Cyhoeddwyd y bydd pedwar myfyriwr yn elwa o’r fwrsariaeth eleni. Bydd Hanna Fflur Morgans Bowen sy’n astudio Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, yn teithio i Tokyo ac Osaka yn Siapan i gynhyrchu fideo ddogfen a fydd yn ymchwilio effaith dathliad Blwyddyn Cymru 2025 a’i ddylanwad ar y gymuned dros y flwyddyn yn olynol.

Meddai Hanna:

“Mae’n fraint derbyn y fwrsariaeth yma oherwydd dwi’n dwli ar deithio a dysgu am ddiwylliannau amrywiol. Bydd y daith yn gyfle hollol unigryw i mi fel rhywun sy’n gobeithio dilyn gyrfa yn y maes newyddiaduraeth. Bydd ymchwilio a dogfennu hanes Cymru a Siapan yn sicr o atgyfnerthu fy nghysylltiadau yn y wlad, yn ogystal â datblygu fy sgiliau newyddiadurol.”

Fiji oedd dewis Lowri Lane, sy’n astudio Gwyddor Parafeddygol ym Mhrifysgol Abertawe. Yno bydd hi’n cymryd rhan ym Mhrosiect Grymuso Ieuenctid, Think Pacific, ble fydd hi’n cymryd rhan mewn gweithdai iechyd cyhoeddus i ddyfnhau dealltwriaeth o heriau iechyd cymunedol.

Bydd Bleddyn Denman sy’n astudio Sŵoleg ym Mhrifysgol Bangor, yn teithio i Mozambique i weithio gyda sefydliad Love the Oceans. Yno bydd yn datblygu ei ymchwil, ei wybodaeth a’i brofiad ar gadwraeth forol ymarferol.

A bydd Gwern Morus sy’n astudio Perfformio ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn teithio i Hawaii. Yno bydd yn perfformio yng Ngŵyl Gerddorol Ryngwladol, cyn cychwyn ar ei gwrs mewn Datblygiad Llais a Theatr Gerdd ym Mhrifysgol NYU Steinhardt yn Efrog Newydd ym mis Medi. Meddai Gwern:

“Dwi’n hynod o ddiolchgar i dderbyn y fwrsariaeth er cof am Dr Llŷr Roberts. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr i gael y cyfle i astudio gyda rhai o athrawon gorau theatr gerddorol America yn Hawaii, a datblygu sgiliau a thechnegau gwerthfawr wrth i mi ddatblygu fy ngyrfa fel perfformiwr.”

Mae’r fwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg er mwyn noddi taith addysgol sy’n gysylltiedig â’u gradd. Dyma’r ail flwyddyn iddo gael ei gynnig gan y Coleg mewn cydweithrediad gyda theulu Llŷr a Phrifysgol Bangor.

Dr Llŷr Roberts oedd un o ddarlithwyr cysylltiol cyntaf y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithrewr y Coleg,

“Roedd Llŷr yn gydweithiwr annwyl, gweithgar a thalentog iawn. Gwnaeth gyfraniad eang i addysg uwch cyfrwng Cymraeg ym maes Busnes ym Mhrifysgol De Cymru, Prifysgol Metropolitan Caerdydd ac yn fwy diweddar, ym Mhrifysgol Bangor.

“Roedd yn angerddol am yr iaith Gymraeg, am astudiaethau busnes a marchnata, am gerddoriaeth ac am deithio. Mae gallu cyfuno rhai diddordebau Llyr yn y fwrsariaeth hon yn caniatáu i ni gofio amdano ac yn benodol am ei gyfraniad i fyfyrwyr ledled Cymru. Llongyfarchiadau i'r pedwar sydd wedi derbyn y fwrsariaeth eleni – edrychwn ymlaen yn fawr iawn at glywed am eu profiadau wrth deithio.”

Yn ogystal â chyhoeddi enillwyr Bwrsariaeth Dr Llŷr Roberts , cyhoeddwyd enillwyr Gwobr Yr Athro Gwyn Thomas, Gwobr Dr John Davies, Gwobr Eilir Hedd Morgan, Gwobr Norah Isaac, a Gwobr Gwerddon.

Dyma rhestr o’r enillwyr:

·        Gwobr yr Athro Gwyn Thomas – Huw Griffiths, Prifysgol Caerdydd am ei draethawd, ‘Agweddau ar ôl-drefedigaethedd yn y nofelau dystopaidd Wythnos yng Nghymru Fydd, Y Dydd Olaf, Iaith y Nefoedd a Cymru Fydd’

·        Gwobr Dr John Davies – Thomas Pugh, Prifysgol Caerdydd am ei draethawd, ‘Ymdriniaeth Beirdd y Tywysogion â’r delfryd arwrol a geir yn ‘Y Gododdin’’

·        Gwobr Eilir Hedd Morgan – Dr Cerys Jones, Prifysgol Aberystwyth

·        Gwobr Norah Isaac - Sion Jones, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Gwobr Gwerddon - Dr Hannah Sams, darlithydd yn Adran y Gymraeg yn Abertawe, gyda’i herthygl ‘Dod i oed: llenyddiaeth Oedolion Newydd yn Gymraeg’.

Dywedodd Cerys:

"Hoffwn ddiolch i deulu Eilir Hedd ac i’r Coleg Cymraeg am yr anrhydedd hwn. Mae’r wobr yn cydnabod blaengarwch o ran ymchwil ac addysgu ym maes y Gwyddorau, felly mae’n fraint derbyn cydnabyddiaeth am fy nghyfraniad yn adran Gwyddor Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth.

“Dwi’n angerddol dros roi’r profiad gorau i bob myfyriwr er mwyn sicrhau eu bod yn magu sgiliau hanfodol a’r gallu i barhau i ddefnyddio eu Cymraeg yn y maes gwyddorau.”

Ewch i’r adran Wobrau ar wefan y Coleg i ddarllen mwy am gategorïau’r gwobrau.