Skip to main content Skip to footer

Gwobrau

Gwobrau 

Pob blwyddyn, mae’r Coleg yn rhoi nifer o wobrau i unigolion disglair am waith, cyflawniad neu gyfraniad rhagorol.   

Mae'r gwobrau wedi eu sefydlu mewn gwahanol feysydd ac mae Paneli Dyfarnu unigol ar eu cyfer. Yn ogystal â’r gwobrau hyn, mae’r Coleg hefyd yn urddo Cymrodyr Er Anrhydedd.   

Mae'r cyfnod enwebu bellach ar gau ar gyfer eleni.

Mae manylion yr holl wobrau i'w gweld isod. 

Manylion am y Gwobrau

Gwobr Gwyn Thomas  

Y Traethawd Estynedig gorau a gyflwynwyd ym maes y Gymraeg fel pwnc academaidd.  

Gwobr John Davies  

Y Traethawd Estynedig gorau yn y Gymraeg ar Hanes Cymru.  

Gwobr Merêd  

Cydnabod cyfraniad myfyriwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn prifysgol yn ehangach.    

Gwobr Goffa Eilir Hedd Morgan  

Cydnabod cyfraniad sylweddol unigolyn ifanc ym maes gwyddoniaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.    

Gwobr Adnodd Cyfrwng Cymraeg Rhagorol 

Am greu adnodd cyfrwng Cymraeg rhagorol ac o ansawdd uchel sy’n cefnogi’r myfyrwyr yn eu hastudiaethau. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.  

Gwobr Cyfraniad Eithriadol   

Am gyfraniad eithriadol i addysg uwch (tu hwnt i rôl broffesiynol). Nid yw’r categori hwn yn canolbwyntio'n gyfan gwbl ar gyfraniad oes – mae modd cydnabod unigolion am gyfraniad dros gyfnodau byrrach lle bu'r effaith yn nodedig.   

Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.

Gwobr y Myfyrwyr  

Mae ‘Gwobr y Myfyrwyr’ yn cynnig cyfle i fyfyriwr neu grŵp o fyfyrwyr enwebu darlithydd sydd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i’w bywyd Cymraeg yn y brifysgol. Mae’r wobr hon ar gyfer aelodau o gynllun darlithwyr cysylltiol y Coleg.

Gwobr Talent Newydd er cof am Gareth Pierce  

I gydnabod prentis sydd wedi dangos dawn arbennig ac wedi serennu yn y gweithle.  

Gwobr Addysgwr Arloesol  

Cydnabod cyfraniad tiwtor, ymarferwr neu aseswr sy’n darparu addysg Gymraeg mewn ffyrdd arloesol.   

Gwobr am Gyfraniad Arbennig  

Bydd y wobr hon yn cael ei rhoi i aelod o’r tîm rheoli sy'n dylanwadu ar ddatblygu darpariaeth Gymraeg o fewn ei sefydliad.   

Gwobr am gyfoethogi profiad y dysgwr/prentis.

Cydnabod cyfraniad aelod o staff yn y sector am gynyddu'r defnydd o’r Gymraeg ymysg dysgwyr/prentisiaid mewn amrywiol sefyllfaoedd llai ffurfiol.  

Gwobr Addysg Bellach William Salesbury 

Gweler isod.

 

Mae’r Coleg hefyd yn rhoi dwy wobr ar y cyd gydag Ymddiriedolaeth William Salesbury:

Gwobr Meddygaeth William Salesbury 

Cydnabod arloesedd prosiect ymchwil neu gyfraniad at weithgareddau cyfredol allgyrsiol drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn maes Meddygaeth.  

Gwobr Addysg Bellach William Salesbury  

Cydnabod cyfraniad dysgwr i'r bywyd a'r diwylliant Cymraeg, o fewn Coleg Addysg Bellach.   

Gwobr Norah Isaac

Y canlyniad gorau gan fyfyriwr israddedig yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg.  

Gwobr Gwerddon

I gydnabod erthygl ragorol sydd wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn ‘Gwerddon'.