Skip to main content Skip to footer
21 Medi 2023

Gwernan Brooks o Lanrug ydy enillydd Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg gwerth £3,000

ADD ALT HERE

Mae Gwernan Brooks sydd wedi cwblhau ei lefel A mewn Hanes, Celf a’r Gymraeg yn Ysgol Brynrefail yn ddiweddar wedi ennill Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd.

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth gan Gyngor Gwynedd a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gefnogi myfyrwyr sy’n byw yng Ngwynedd sy’n dewis astudio 100% o’u cwrs gradd yn y brifysgol drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae’r ysgoloriaeth yn cael ei ddyfarnu i un unigolyn yn flynyddol, ac yn werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd).

Meddai Gwernan,

“Mae’n anrhydedd derbyn yr ysgoloriaeth ac rwy’n ddiolchgar iawn i Gyngor Gwynedd a’r Coleg Cymraeg am y cymorth ariannol. Mae’r ysgoloriaeth yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc yn fy ardal i fentro, a bydd yr arian ychwanegol yn hwb wrth i mi ymgartrefu yn y ddinas i barhau gyda fy astudiaethau a chael profiadau newydd.”

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg

“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Gwernan ar ennill yr ysgoloriaeth eleni a dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol yn astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Hoffwn ddiolch hefyd i Gyngor Gwynedd am eu cefnogaeth barhaus dros y blynyddoedd.”

Dywedodd y Cynghorydd Beca Brown, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd dros Addysg:

“Llongyfarchiadau gwresog i Gwernan ar sicrhau’r ysgoloriaeth hon a phob dymuniad da iddi ar ei chwrs ac i’r dyfodol. Un o gonglfeini cyfundrefn addysg Gwynedd ydi sicrhau fod ein pobl ifanc yn gyfforddus ac yn hyderus i ddefnyddio eu Cymraeg ym mhob agwedd o fywyd, felly yn naturiol rydym yn hynod falch o weld myfyrwyr yn mynd ymlaen i barhau eu hastudiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Rydym yn ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg am roi’r cyfleoedd hyn i fyfyrwyr ac yn edrych ymlaen at barhau i gydweithio â hwy.”

Fel aelod blaenllaw o’r gymuned yn Llanrug yn gwneud gwaith gwirfoddol rhan-amser yn yr uned drochi iaith sy’n rhoi cefnogaeth i blant sy’n symud o ysgolion cyfrwng Saesneg i ysgolion cyfrwng Cymraeg, mae’r Gymraeg yn bwysig iawn i Gwernan,

“Rwy’n ddiolchgar i addysg cyfrwng Cymraeg am yr holl gyfleoedd dwi wedi ei dderbyn yn yr ysgol a thu hwnt ac am feithrin fy niddordeb i astudio’r Gymraeg fel pwnc ar lefel uwch. Rwy’n frwdfrydig iawn i hyrwyddo’r Gymraeg a chynrychioli fy ardal i yn y ddinas.”

Bydd manylion mynediad i ymgeisio am ysgoloriaeth Cyngor Sir Gwynedd 2023 yn ymddangos ar wefan y Coleg Cymraeg yn Hydref 2023. Rhaid defnyddio Chwilotydd Cyrsiau’r Coleg Cymraeg er mwyn gwirio pa gyrsiau sy’n gymwys. Cysylltwch â’r Coleg Cymraeg drwy ffonio 01267 610400 am ragor o wybodaeth.