Skip to main content Skip to footer
20 Medi 2022

Cyhoeddi Enillydd Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies

ADD ALT HERE

Erin Pennant Jones o Ddolgellau yn ennill Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies y Coleg Cymraeg sy'n werth £3,000

Erin Pennant Jones o Rydymain, Dolgellau, yw enillydd Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies y Coleg Cymraeg Cenedlaethol eleni sy'n cael ei rhoi i fyfyriwr sy’n dewis astudio o leiaf 66% o’u cwrs gradd ym maes y Gyfraith drwy gyfrwng y Gymraeg ac sy’n dod o ardaloedd Meirionnydd neu Rhondda Cynon Taf.

Mae Erin, sydd newydd dderbyn ei lefel A mewn Hanes, Cymraeg, a’r Gyfraith o Goleg Meirion Dwyfor, Dolgellau, wedi ennill yr ysgoloriaeth i astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. 

Sefydlwyd Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn 2018 yn enw'r cyfreithiwr nodedig, yr Arglwydd Gwilym Prys Davies o Lanegryn, Meirionnydd. Mae’r ysgoloriaeth yn werth £1,000 y flwyddyn (neu £3,000 dros dair blynedd). 

“Mae’n anrhydedd derbyn ysgoloriaeth gan y Coleg Cymraeg yn enw'r Arglwydd Gwilym Prys Davies”, meddai Erin, sy’n 18 oed. Roedd yn ffigwr hynod o ddylanwadol ym maes y Gyfraith a’r Gymraeg yn fy ardal i ym Meirionnydd, a dros Gymru gyfan. Bydd yn fraint astudio rhan o’r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn yr un man ag yr astudiodd Gwilym Prys Davies.”    

“Dwi hefyd mor ddiolchgar i’r Coleg Cymraeg am y cymorth ariannol a fydd yn hwyluso fy nghyfnod yn y brifysgol dros y tair blynedd nesaf.” 

Meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg: 

“Ar ran y Coleg, hoffwn longyfarch Erin ar ennill yr ysgoloriaeth eleni a dymunwn bob llwyddiant iddi yn y dyfodol wrth iddi astudio’r Gyfraith ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hoffwn fynegi ein gwerthfawrogiad hefyd i deulu Gwilym Prys Davies am eu cefnogaeth dros y blynyddoedd.” 

Fel menyw ifanc o gefn gwlad Cymru sy’n angerddol dros y Gymraeg, ac yn aelod brwd o Glwb Ffermwyr Ifanc Dolgellau, mae Erin yn gobeithio dilyn gyrfa gyda’r heddlu yn y dyfodol,  

“Bydd astudio’r Gyfraith yn rhannol drwy gyfrwng y Gymraeg yn fy ngalluogi i gael y sgiliau proffesiynol i weithio yn fy mamiaith yn y dyfodol”, meddai. "Gobeithio y bydd hyn yn cael effaith bositif ar y gymuned i annog mwy o bobl i wneud yr un peth er mwyn cyrraedd targed y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.”