Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn falch o gyhoeddi enwau 39 o lysgenhadon newydd o golegau addysg bellach ar draws Cymru ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25, gan gynnwys pedwar llysgennad cenedlaethol.
Rôl y llysgenhadon ydy codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddysgwyr yn y coleg o fanteision astudio a hyfforddi’n ddwyieithog, a’u hannog i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg yn y byd gwaith ar ôl gorffen eu cwrs.
Yn ogystal bydd y llysgenhadon cenedlaethol yn cael cyfle i fod yn rhan o Fforwm Llais y Dysgwyr, er mwyn sicrhau bod llais dysgwyr addysg bellach yn ganolog i waith y Coleg.
Ymhlith y criw newydd eleni mae Magi Roberts sy’n astudio’r Cyfryngau yng nghampws Glannau Dyfrdwy, Coleg Cambria. Mae Magi yn edrych ymlaen at hyrwyddo’r Gymraeg i'w chyd-ddysgwyr ar y cyfryngau cymdeithasol gan adeiladu ar ei phrofiad blaenorol o greu flogiau ar ei theithiau tramor.
Meddai:
“Mae’n bwysig iawn atgoffa pobl ifanc o’r manteision o fod yn ddwyieithog, yn enwedig yn fy ardal i sy’n agos iawn at y ffin. Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn adnodd pwerus i ddylanwadu, ac mae gen i brofiad o greu cynnwys creadigol Cymraeg ar ffurf flogiau pan wnes i deithio i Asia yn ddiweddar. Rwy’n edrych ymlaen felly at ddefnyddio fy holl sgiliau creadigol wrth fod yn lysgennad y Coleg.”
Meddai Aidan Bowen (prif lun), dysgwr ym maes Cyfrifeg o Goleg Caerdydd a’r Fro sydd wedi ei benodi i fod yn lysgennad cenedlaethol:
“Rwy’n lwcus fy mod i’n medru tair iaith - Cymraeg, Saesneg a Patois, sef iaith ynysoedd y Caribî, felly rwy’n deall sut mae bod yn amlieithog yn gallu bod yn fanteisiol. Mae’n fraint fy mod i wedi cael fy newis i fod yn lysgennad cenedlaethol ac rwy’n edrych ymlaen at hyrwyddo’r Gymraeg yn fy ngholeg ac yn benodol i bobl o gymunedau amrywiol..”
Ychwanegodd Bethan Eleri Phillips, sy’n astudio Busnes yng Ngholeg Sir Gâr:
“Yn fy amser hamdden dwi’n creu cynnwys ar godi pwysau ar y cyfryngau cymdeithasol, ac rwyf wedi llwyddo denu cannoedd o filoedd o wylwyr gyda rhai o’r fideos wedi mynd yn feiral! Mae gen i syniadau newydd ar sut i ddefnyddio fy mhlatfform i hyrwyddo’r iaith Gymraeg ymhlith fy ffrindiau sydd yn llai hyderus yn y Gymraeg..”
Bydd y llysgenhadon yn dechrau ar eu gwaith y mis yma. Byddant yn cynrychioli’r Coleg Cymraeg a’u coleg addysg bellach mewn amryw o ddigwyddiadau, yn creu cynnwys i’r cyfryngau cymdeithasol, ac yn cynnig syniadau ar sut i hybu’r Gymraeg o fewn eu colegau.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnig llawer o gyfleoedd i'r llysgenhadon fagu hyder a sgiliau, ac i fod yn rhan o gymuned Cymraeg eu coleg.
Mae’r 39 llysgennad wedi eu penodi ar draws 12 coleg addysg bellach, ac mae Elin Williams, Rheolwr Marchnata’r Coleg yn falch i weld y cynllun yn tyfu. Meddai:
“Mae’r cynllun llysgenhadon addysg bellach yn mynd o nerth i nerth gyda nifer o golegau a’u dysgwyr yn frwdfrydig iawn i fod yn rhan o’r cynllun.
“Erbyn hyn rydym yn cydweithio gyda cholegau o bob cwr o Gymru, ac mae’n braf gweld y berthynas yn datblygu.
“Rydyn ni’n edrych ymlaen at gyd-weithio gyda’r criw newydd o lysgenhadon a’r llysgenhadon cenedlaethol ac yn gobeithio’n fawr y byddant yn gallu ysbrydoli eu cyfoedion yn eu coleg a thu hwnt i ddefnyddio ac i fod y falch o’u sgiliau dwyieithog.”
I wybod mwy am y llysgenhadon ac i ddilyn y cynllun yn ystod y flwyddyn ewch i wefannau cymdeithasol y Coleg Cymraeg.
Tik Tok, Instagram, X a Facebook: @colegcymraeg