Skip to main content Skip to footer
18 Medi 2025

Cynllun mentora’r Coleg Cymraeg yn “rhoi hyder” i ddisgyblion Cymraeg Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig.

ADD ALT HERE

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gwahodd siaradwyr Cymraeg rhwng 16-19 oed Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig i ymuno â’i Gynllun Sbarduno sy’n rhoi cefnogaeth i bobl ifanc barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg ac i feithrin eu hyder wrth wneud.

Un a elwodd o’r Cynllun llynedd oedd Joshua Romain sy’n Brif Ddisgybl ym mlwyddyn 13 yn Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr. Cafodd ei fentora gan Noam Devey, Pencampwr Cydraddoldeb Prifysgol Caerdydd.

Meddai Joshua:

“Roedd bod ar y Cynllun wedi rhoi’r hyder i mi gymryd mwy o gyfleoedd trwy gyfrwng y Gymraeg.

“Rwy’n mwynhau ysgrifennu, a rhoddodd y cynllun yr hwb oedd angen arnaf i rannu fy ngwaith yn gyhoeddus.

“Ers cael fy mentora ar y Cynllun, dwi wedi mynd ati i ysgrifennu sawl erthygl a blog ar hunaniaeth a chydraddoldeb – pynciau sy’n bwysig iawn i mi.”

 

Mae un o’i erthyglau wedi ei gyhoeddi yng nghylchgrawn Golwg, ac mae’n trafod perthnasedd a chynwysoldeb y term ‘Cymry Cymraeg’ i ddisgrifio siaradwyr Cymraeg. Mae hefyd wedi ysgrifennu erthygl ar wefan y Coleg ar effaith protestiadau ‘Bywydau Bobl Du o Bwys’ bum mlynedd yn ddiweddarach.

Meddai Joshua:

“Credaf mai’r peth pwysicaf wrth sôn am brotestiadau 2020 yw’r naratif o’u hamgylch. Sut ydyn ni fel gwlad yn myfyrio arni, yn ein hamgueddfeydd, dosbarthiadau ysgol ac wrth drafod gyda theulu a ffrindiau.

“Wrth i mi fynd yn hŷn, rwyf yn deall ac yn fwy ymwybodol o’r hiliaeth rwyf yn ei wynebu.

“Mae’n holl bwysig felly i gofio ac i ddathlu’r protestiadau a'u canlyniadau wrth barhau i alw am welliannau.” 

“Byddwn ni’n annog unrhyw un i ymuno â Chynllun Sbarduno – fel mentor neu fel disgybl.

“Mae cynrychiolaeth a modelau rôl amrywiol yn hollbwysig i bobl ifanc, nid yn unig o gefndiroedd Mwyafrif Byd Eang ond i bawb gan sicrhau bod pawb yn cael eu gweld.

“Hoffwn ffocysu ar fodelau rôl gadarnhaol o fewn y byd Cymraeg.”

 

Yn ôl Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg, pwrpas y cynllun ydy sicrhau fod pobl ifanc Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn cael y cyfle i drafod eu dyfodol gyda mentor all gynnig cyngor ac arweiniad iddyn nhw ar sut i wneud y mwyaf o’u sgiliau Cymraeg ar ôl gadael yr ysgol.

Meddai Emily:

“Mae’r Gymraeg yn agor cymaint o ddrysau ac mae’n bwysig bod disgyblion Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig yn gallu gweld bod cyfleoedd i hyfforddi, astudio a gweithio trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael ac yn berthnasol iddyn nhw.  

“Wrth ddod â’r mentoriaid a’r myfyrwyr at ei gilydd i drafod profiadau, heriau a chyfleoedd, ac i gynnig cymorth a gwybodaeth, ein gobaith ydy meithrin y genhedlaeth nesaf o arweinwyr Cymraeg.”

 

Mae’r Coleg yn croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr (rhwng 16-19 oed) a mentoriaid Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd ethnig cyn 26 Medi 2025 Ewch  i'r dudalen hon am wybodaeth pellach

Gwyliwch fideo ar sianel You tube y Coleg  sy'n cynnwys aelodau o Gynllun Sbarduno'r Coleg yn rhannu eu profiadau: