Cynllun Sbarduno 2024-25
Mae’r Cynllun Sbarduno yn gynllun mentora ar gyfer siaradwyr Cymraeg Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig. Pwrpas y cynllun yw ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o siaradwyr Cymraeg i fagu hyder a datblygu eu sgiliau Cymraeg wrth wneud penderfyniadau am y dyfodol. Mae’r mentoriaid yn cynnal 5 sesiwn mentora ar-lein gyda pherson ifanc 16-19 oed. I fod yn fentor ar y cynllun, bydd angen cwblhau DBS, ac mae’r cyfle yn un sy’n cynnig tâl.
Ar gyfer y flwyddyn 2023-24, lansiodd y Coleg Cymraeg cynllun peilot lle derbyniodd 8 myfyriwr 16-19 oed sesiynau mentora gan unigolyn profiadol. Roedd y flwyddyn gyntaf yn llwyddiant, gyda mentoriaid yn awyddus i ymuno gyda ni am ail flwyddyn, a’r disgyblion wedi elwa o glywed profiadau’r mentoriaid.
Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb, a thrwy lansio’r cynllun, rydym yn awyddus i gynnig cyfleoedd i bawb defnyddio’i sgiliau Cymraeg. Dewch i ymuno gyda ni!
Fideo Cynllun Sbarduno
Mae’r fideo canlynol yn dangos cipolwg o’r cynllun.
Recriwtio mentoriaid
Rydym nawr yn recriwtio mentoriaid ar gyfer y flwyddyn 2024-25! Llenwch y ffurflen ganlynol i ddatgan eich diddordeb.
Recriwtio Myfyrwyr
Byddwn yn recriwtio myfyrwyr 16-19 oed ym mis Medi a Hydref 2024 felly cadwch lygaid ar rwydweithiau’r Coleg Cymraeg am wybodaeth. Byddwn yn rhannu'r ffurflen gofrestru ar y dudalen hon maes o law.