Skip to main content Skip to footer
5 Awst 2024

Cynnydd mewn prentisiaethau dwyieithog

ADD ALT HERE

Mae’r nifer o brentisiaid sy’n dilyn cwrs  dwyieithog wedi mwy na dyblu ers i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ddechrau gweithio yn y sector, gyda’r nifer o weithgareddau dysgu yn cynyddu o 10% yn 2016 i dros 25% yn 2022. Mae’r cynnydd hwnnw i'w weld yn glir iawn ymhlith prentisiaid sy’n gwneud elfennau o’u prentisiaeth yn ddwyieithog.

Mae’r Coleg wedi cefnogi nifer o brosiectau strategol gyda 51 grant yn cael eu dyfarnu i golegau ac 11 grant i ddarparwyr prentisiaethau yn ystod y flwyddyn academaidd 2022/2023.

Yn ogystal â’r grantiau sydd wedi galluogi colegau a darparwyr prentisiaethau i gyflogi staff cyfrwng Cymraeg, mae’r Coleg wedi datblygu nifer o adnoddau dysgu gan gynnwys adnodd V.R Fferm Ddiogel ac adnodd rhyngweithiol i wella dealltwriaeth prentisiaid o ddwyieithrwydd mewn amrywiol feysydd. 

Un o’r adnoddau mwyaf poblogaidd i gael ei ddatblygu a’i gyflwyno i’r sector prentisiaethau gan y Coleg Cymraeg yw’r adnodd Prentis-Iaith. Mae’n cyflwyno ymwybyddiaeth o’r Gymraeg ac ymadroddion Cymraeg ar lefel ymwybyddiaeth, dealltwriaeth, hyder a rhuglder i bob prentis yn y sector.

Mae Jasmin Davies-Kumar o Landeilo yn un o’r prentisiaid sydd wedi cwblhau y cwrs Prentis-iaith. Mae hi’n dilyn prentisiaeth mewn Gofal Iechyd Clinigol yng Ngholeg Sir Benfro ac yn gwneud ei hyfforddiant yn Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin.

Dywedodd Jasmin, “Diolch i’r Coleg Cymraeg, dw i nawr yn medru gweithio yn ddwyieithog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Ond yn bwysicach, dwi wedi

gweld y gwahaniaeth mae hynny yn ei gael ar gleifion yn yr ysbyty.

“Mae nifer o’r cleifion yma yn siarad Cymraeg, ac o brofiad mae’n well gan bobl fregus, a phlant yn enwedig, siarad yn eu mamiaith. Pan mae claf yn clywed nyrs yn siarad Cymraeg, maen nhw’n yn teimlo’n fwy cyfforddus yn syth ac oherwydd hyn dwi wedi llwyddo i fagu perthynas glòs gyda’m cleifion.

“Byddwn i’n annog unrhyw un, beth bynnag yw eich lefel yn y Gymraeg, i ddewis astudio rhan o’ch prentisiaeth yn Gymraeg.

“Fe gewch chi’r sgiliau sydd angen arnoch chi i weithio’n ddwyieithog, ac mae hyd yn oed defnyddio ychydig bach o Gymraeg yn mynd yn bell.”

Mae’r Coleg hefyd wedi cyflwyno cynllun llysgenhadon i’r sector ôl-16, hyfforddiant i diwtoriaid i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg a chynlluniau codi hyder yn y Gymraeg. 

Meddai Dr Lowri Morgans, Uwch Reolwr Addysg Bellach a Phrentisiaethau y Coleg Cymraeg Cenedlaethol,, “Rydym yn falch iawn o’r gwaith sydd wedi ei wneud gennym yn y sector ôl-16 er mwyn sicrhau fod prentisiaid yn cael mwy o gyfle i astudion ddwyieithog.

“Mae ein prosiectau wedi bod yn canolbwyntio ar y meysydd blaenoriaeth iechyd a gofal, gofal plant, gwasanaethau cyhoeddus, chwaraeon, busnes a diwydiannau creadigol ac astudiaethau ar dir.  Rydym o ganlyniad wedi sefydlu seilwaith gadarn ar gyfer y ddarpariaeth a chynyddu nifer y gweithgareddau dysgu dwyieithog.”

Yn yr Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni, bydd y Coleg Cymraeg yn cynnal digwyddiad i drafod y datblygiadau hyn a’r gwahaniaeth mae hynny wedi ei wneud i brentisiaid ar lawr gwlad.

Bydd y digwyddiad, ‘Prentisiaethau a Cymraeg 2050’, yn cael ei gynnal ym Mhabell y Cymdeithasau ar Faes yr Eisteddfod, dydd Llun, 5 Awst am 1pm. 

Dr Lowri Morgans, Elliot Wigfall, Meri Huws, Dr Richard Lewis a Dr Efa Gruffudd Jones ar sgwrs banel: Prentisiaethau a Cymraeg 2050