Mewn ymateb i farwolaeth gynamserol Aled Roberts, Comisiynydd y Gymraeg, meddai Dr Ioan Matthews, Prif Weithredwr y Coleg Cymraeg Cenedlaethol:
“Rydym wedi ein tristhau yn fawr o glywed y newydd am farw Aled. Roedd ei gyfraniad i fywyd cyhoeddus yng Nghymru yn amlweddog dros nifer o flynyddoedd. Bu Aled yn gefnogol iawn i waith y Coleg tra’n aelod o’r Senedd, gan gynnwys cefnogi’r awgrym o ymestyn cyfrifoldebau’r Coleg i’r sector addysg bellach a phrentisiaethau.
Pleser oedd cydweithio ag e yn fwy diweddar yn ei waith fel Comisiynydd y Gymraeg a bydd colled mawr ar ei ôl. Estynnwn ein cydymdeimlad llwyraf i Llinos a’r teulu.”